Ystadegau talu

Mae ein polisi talu credydwyr yn cael ei gynnal yn unol â Pholisi Talu Gwell y Llywodraeth sydd ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer talu cyflenwyr o fewn pum diwrnod gwaith i dderbyn anfoneb, ac eithrio mewn achos lle gall fod ymholiad neu anghydfod ynghylch anfoneb. Mae'r targed hwn yn heriol, yn enwedig i sefydliad bach, a dim ond os byddwn yn cyflogi mwy o staff y gellid ei gyflawni. Yn unol â hynny, ein nod yw talu 60 y cant o anfonebau diamheuol o fewn pum diwrnod a 100 y cant o fewn 10 diwrnod.

Mae manylion ein hystadegau taliadau i'w gweld isod.