Ein cyngor polisi

Mae ein gwaith polisi yn ymdrin ag ystod eang o faterion ar draws rheoleiddio proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn gwneud gwaith pan ofynnir i ni edrych ar broblem benodol a rhoi ein cyngor. Rydym hefyd yn nodi materion trwy ein gwaith gyda'r rheolyddion proffesiynol a chofrestrau achrededig. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a’r gweinidogion iechyd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn aml yn gofyn inni archwilio cwestiynau penodol.

Delwedd yn dangos dotiau mewn lelog a phorffor a ddefnyddir yn yr adran PSA ar Wella rheoleiddio

Wrth gyflawni ein gwaith rydym yn siarad â phobl sydd â diddordeb neu wybodaeth am y pwnc, i ddysgu o'u profiad neu arbenigedd. Rydym hefyd yn ceisio dod â safbwyntiau cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd i'n gwaith ar bob cyfle. Gall hyn fod drwy edrych ar yr hyn y mae sefydliadau eraill wedi’i ddweud, comisiynu ymchwil gyda chleifion, defnyddwyr gwasanaethau ac aelodau eraill o’r cyhoedd, siarad ag elusennau, grwpiau cleifion a defnyddwyr gwasanaeth a’n rhwydwaith rhanddeiliaid, neu drwy ymgynghoriadau a chyfarfodydd.