Prif gynnwys
Baner tudalen

Ein Hadroddiadau Corfforaethol

Mathau o gyhoeddiadau corfforaethol

Rydym yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol, cynlluniau busnes a strategol. Cyflwynir y mathau hyn o adroddiadau gerbron Seneddau'r DU. Rydym hefyd yn cyhoeddi adroddiadau eraill sy'n canolbwyntio ar faes penodol o'n gwaith yn ogystal â pholisïau a phrosesau ar gyfer tryloywder.

Adroddiadau blynyddol a chyfrifon

Bob haf, rydyn ni’n cyhoeddi adroddiad am ein gwaith a’r arian rydyn ni’n ei wario. Rydym yn gosod ein hadroddiadau gerbron y Senedd, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae ein hadroddiad yn cynnwys trosolwg o reoleiddio a chofrestru proffesiynol fel y gall y Senedd ac eraill weld a yw’r cyhoedd yn cael eu hamddiffyn yn dda.

Cynlluniau busnes a strategol

Ochr yn ochr â'n hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon rydym hefyd yn cyhoeddi cynllun busnes blynyddol a chynllun strategol tair blynedd. Cyhoeddwyd ein cynllun diweddaraf ym mis Ebrill 2026. Mae'n cwmpasu'r cyfnod 2026 i 2029.

Darllenwch fwy o'n cyhoeddiadau corfforaethol