Datganiad preifatrwydd
Pwrpas yr hysbysiad hwn yw dweud wrthych beth y gallwch ei ddisgwyl pan fydd yr Awdurdod Safonau Proffesiynol (y PSA) yn casglu data personol. Mae’n cynnwys gwybodaeth a gasglwn am:
- Ceisiadau am swyddi a recriwtio
- Gwybodaeth am ein staff
- Hawliadau treuliau
- Cwyno/rhannu gwybodaeth am eich profiad
- Gwybodaeth mewn perthynas â chais gwrthrych am wybodaeth Cais Rhyddid Gwybodaeth
- Ymwelwyr â'n gwefan
- Pobl sy'n tanysgrifio i'n cylchlythyr
- Pobl sy'n ymateb i ymgynghoriad/galwad am wybodaeth
- Gwybodaeth am bobl sy'n mynychu ein digwyddiadau
- Gwybodaeth am achosion addasrwydd i ymarfer
- Adolygu perfformiad.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd eich data personol. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n gwbl unol â Deddf Diogelu Data 1998 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018.
Dim ond y lleiafswm o wybodaeth sydd ei hangen i gwrdd â'n dibenion datganedig y byddwn yn ei chasglu a bydd hyn yn cael ei gadw'n ddiogel ar ffurf electronig. Lle caiff gwybodaeth ei hanfon yn ffisegol, caiff ei sganio'n electronig a chaiff copïau caled eu dinistrio'n ddiogel yn unol â'n polisi cadw a gwaredu.
Os oes angen penodol i gadw copi gwreiddiol neu gopi caled, caiff hyn ei nodi'n glir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd .
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein datganiad preifatrwydd e-bostiwch info@professionalstandards.org.uk . Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd llawn.