Ein hadolygiadau perfformiad o reoleiddwyr
Rydym yn gwirio pa mor dda y mae sefydliadau sy'n rheoleiddio pobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud eu gwaith. Bob blwyddyn, rydym yn adrodd ar y 10 rheolydd rydym yn eu goruchwylio i wneud yn siŵr eu bod yn amddiffyn y cyhoedd yn iawn. Rydym yn rhoi adborth ar yr hyn y maent yn ei wneud yn dda a sut y gallant wneud yn well.
Sut rydym yn defnyddio adolygiadau perfformiad
Rydym yn defnyddio ein hadolygiadau perfformiad i:
- dweud wrth y cyhoedd pa mor dda y mae rheolyddion yn bodloni ein Safonau Rheoleiddio Da
- helpu rheolyddion i wella drwy nodi eu cryfderau a meysydd i’w gwella.
Adroddiadau
Rydym yn cyhoeddi adroddiadau sy'n esbonio sut rydym yn barnu perfformiad pob rheolydd.
Sut rydym yn cynnal adolygiadau perfformiad
Bob blwyddyn, rydym yn edrych ar bob rheolydd gan ddefnyddio proses adolygu perfformiad drylwyr ac rydym yn:
- adolygu gwybodaeth y mae'r rheolydd yn ei chyhoeddi
- edrych ar ddata ar eu prosesau cofrestru ac addasrwydd i ymarfer
- gwirio eu cofrestr gyhoeddus
- adolygu eu penderfyniadau addasrwydd i ymarfer (dyma’r penderfyniadau a wneir am gwynion neu bryderon difrifol yn erbyn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol)
- ystyried adborth gan bobl sydd wedi delio â'r rheolydd a rhannu eu profiad gyda ni.
Ein cylch adolygu
Cynhelir ein hadolygiadau perfformiad dros gylch tair blynedd.
Bob tair blynedd, rydym yn cynnal 'adolygiad cyfnodol' dwys ac yn y ddwy flynedd arall, rydym yn monitro perfformiad ac yn cynhyrchu adroddiadau byrrach.
Gallwn gynnal adolygiad cyfnodol yn gynt os byddwn yn nodi risgiau neu bryderon newydd.
Anelu bob amser at wella safonau
Hyd yn oed pan fydd rheolydd yn cyrraedd ein safonau, mae lle i wella bob amser. Rydym yn cadw llygad ar feysydd lle gallant wella.
Beth fydd yn digwydd os na fydd rheolydd yn bodloni Safon?
Rydym yn amlygu pan nad yw rheolydd yn bodloni Safon ac yn rhoi awgrymiadau ar feysydd i'w gwella. Rydym yn deall y gall gwelliannau gymryd amser weithiau. Fodd bynnag, os na fydd rheolydd yn bodloni’r un Safon am dair blynedd, neu pan fydd gennym bryderon newydd sy’n arbennig o ddifrifol, byddwn yn dilyn ein polisi uwchgyfeirio a gallwn godi pryderon gyda’r Llywodraeth neu’r Senedd.