Safonau Rheoleiddio Da

12 Chwefror 2019

Rydym yn defnyddio ein Safonau Rheoleiddio Da fel sail i'n hadolygiadau rheolyddion. Bob blwyddyn rydym yn gwirio pa mor dda y mae pob rheolydd yn cwrdd â nhw ac yn cyhoeddi'r hyn a ganfyddwn mewn adroddiad adolygu perfformiad

Mae'r dyfarniadau a wnawn yn erbyn pob Safon yn ymgorffori ystod o dystiolaeth i lunio darlun cyffredinol o berfformiad. Mae cyrraedd Safon yn golygu ein bod yn fodlon bod rheolydd yn perfformio'n dda yn y maes hwnnw. Nid yw'n golygu nad oes lle i wella. Yn yr un modd, nid yw canfod bod rheolydd wedi cyrraedd pob un o'r Safonau yn golygu perffeithrwydd. Yn hytrach, mae'n arwydd o berfformiad da yn y 18 maes a aseswn.

Darllenwch drwy ein hadolygiadau perfformiad diweddar

Safonau Rheoleiddio Da a chanllawiau cysylltiedig