Cwestiynau cyffredin

Rydym wedi darparu'r atebion i rai o'r cwestiynau y mae pobl yn aml yn eu gofyn i ni isod. Ar y dudalen hon gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau am ein sefydliad. Os hoffech ddod o hyd i atebion i gwestiynau am waith y rheolyddion neu gofrestrau achrededig defnyddiwch y dolenni ar y chwith.

Beth yw'r Awdurdod Safonau Proffesiynol?

Ein henw llawn yw'r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PSA). Rydym yn sefydliad annibynnol yn y DU ac rydym yn adrodd i’r Senedd.

Beth mae'r PSA yn ei wneud?

Rydym yn goruchwylio gwaith 10 rheolydd sy'n rheoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol yn y DU a gweithwyr cymdeithasol yn Lloegr. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau ar gyfer ymarferwyr iechyd a gofal heb eu rheoleiddio.

Rydym yn darparu cyngor ar reoleiddio gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol i Weinidogion ac eraill. Rydym hefyd yn cyhoeddi safonau ac yn annog ymchwil fel bod rheoleiddio yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio.

Beth yw pwrpas gwaith y PSA?

Gwirio bod rheolyddion a chofrestrau achrededig yn diogelu'r cyhoedd yn dda ac yn annog gwelliant yn y ffordd y mae rheoleiddio a chofrestru yn cael eu cynnal.

Sut mae'r PSA yn cael ei ariannu?

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r 10 rheolydd dalu ffi flynyddol i ni. Rydym yn codi ffi nid-er-elw ar gofrestrau achrededig. Gall llywodraethau ac eraill hefyd ein comisiynu i roi cyngor iddynt.

Faint o arian mae'r PSA yn ei wario?

Gallwch ddod o hyd i gopi o'n cyfrifon yn ein Hadroddiad Blynyddol. Mae ein cyllideb flynyddol fel arfer yn llai na £4 miliwn. Mae gennym rhwng 35-40 o staff.

Cysylltwch â ni