Ein hamcanion strategol

Amcanion strategol ar gyfer 2023-26. 

Gallwch ddarllen crynodeb o'n hamcanion strategol fel y nodir yn ein Cynllun Strategol 2023-26 isod neu eu gweld wedi'u hatgynhyrchu'n weledol ar y ffeithlun hwn. Gallwch hefyd ddarllen y cynllun llawn yn Gymraeg neu Saesneg.  

Gallwch ddod o hyd i'n holl adroddiadau corfforaethol yma

Pennir ein hamcanion strategol gan ein Bwrdd ac fe'u nodir isod. Mae’r Bwrdd yn adolygu cynnydd yn erbyn yr amcanion hyn bob chwe mis :

Nod strategol 1

Diogelu’r cyhoedd trwy oruchwylio rheoleiddio a chofrestru yn hynod effeithiol: 

  • Cyflawni ein dyletswyddau statudol, gan dargedu ein hadnoddau lle mae’r risg fwyaf i’r cyhoedd.
  • Cefnogi safonau uchel mewn rheoleiddio a chofrestru iechyd a gofal cymdeithasol trwy ein hadolygiad perfformiad, adolygiadau adran 29, cofrestrau achrededig, a swyddogaethau polisi a chyfathrebu.
  • Adolygu a gwella ein prosesau (gan gynnwys newidiadau deddfwriaethol lle bo angen) i sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn effeithlon.

Nod strategol 2

I wneud rheoleiddio a chofrestru yn well ac yn decach:

  • Arwain datblygiad rheoleiddio mwy effeithiol trwy adolygu ein safonau, a chynnal gweithgareddau eraill gan gynnwys ymchwil, cyngor polisi a mentrau gwella ansawdd, megis rhannu arfer da.
  • Hyrwyddo, dylanwadu a chefnogi diwygio rheoleiddio.
  • Hyrwyddo a monitro cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith ac yn y rhai rydym yn eu goruchwylio.

Nod strategol 3

Hyrwyddo a chefnogi gofal mwy diogel i bawb:

  • Gweithio gydag eraill i sefydlu'r ystod lawn o swyddogaethau a argymhellir mewn Gofal Mwy Diogel i Bawb ar gyfer Comisiynwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Diogelwch ym mhob un o bedair gwlad y DU.
  • Gweithio gyda llywodraethau'r DU i ddatblygu strategaethau rheoleiddio i gefnogi strategaethau'r gweithlu.
  • Gweithio gyda rheoleiddwyr, Cofrestrau Achrededig a rhanddeiliaid eraill i: hyrwyddo diwylliannau cadarnhaol yn y gweithle; datrys unrhyw wrthdaro rhwng blaenoriaethau busnes a diogelwch cleifion, a rhwng mannau diogel, atebolrwydd a’r ddyletswydd gonestrwydd.

Gweithio tuag at gyflawni ein hamcanion strategol

Darganfyddwch sut rydym yn gweithio i gyflawni ein hamcanion strategol yn ein hadroddiad blynyddol diweddaraf

Cofrestrwch i'n cylchlythyr

Derbyn diweddariadau rheolaidd am ein gwaith