Prif gynnwys
Mae wyth aelod:
- Cadeirydd a benodir gan y Cyfrin Gyngor
- Tri aelod Anweithredol; un wedi’i benodi gan Weinidogion yr Alban, un wedi’i benodi gan Weinidogion Cymru a’r trydydd wedi’i benodi gan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd yng Ngogledd Iwerddon
- Tri aelod anweithredol wedi eu penodi gan y Cyfrin Gyngor
- Un aelod gweithredol a benodir gan ein Bwrdd ei hun
- Aelod Bwrdd Cyswllt wedi'i benodi am ddwy flynedd
Mae gan ein Bwrdd sgiliau a chefndiroedd gwahanol. Nid ydynt yn weithwyr iechyd neu ofal proffesiynol oherwydd nid yw’r ddeddfwriaeth y cawsom ein sefydlu oddi tani yn caniatáu i unrhyw un sydd wedi bod yn aelod o broffesiwn a reoleiddir eistedd ar ein Bwrdd. Cefnogir gwaith ein Bwrdd gan ein Pwyllgor Archwilio a Risg, ein Pwyllgor Craffu a'n Pwyllgor Enwebiadau.
Mae ein Bwrdd yn cyfarfod bob yn ail fis a chyhoeddir agendâu a phapurau wythnos cyn y cyfarfod. Rydym yn croesawu aelodau o'r cyhoedd i arsylwi ein cyfarfodydd Bwrdd yn rhithwir a gwahodd cwestiynau bob amser.