Prif gynnwys
Baner tudalen
Ein Pwyllgorau
Cefnogir gwaith ein Bwrdd gan ein Pwyllgor Archwilio a Risg, Pwyllgor Craffu a Phwyllgor Enwebiadau.
Pwyllgor Archwilio a Risg
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn helpu’r Bwrdd i sicrhau bod y PSA yn cael ei lywodraethu’n dda a’i fod yn rheoli risgiau. Mae tri aelod anweithredol o’n Bwrdd yn eistedd ar y Pwyllgor hwn, sy’n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Mae'r Pwyllgor yn adrodd yn ysgrifenedig i'r Bwrdd a rhoddir cyfle i'r Cadeirydd godi materion yn y Bwrdd bob tro y mae'n cyfarfod. Mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg yn darparu Adroddiad Blynyddol i'r Bwrdd, sy'n crynhoi'r prif feysydd gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Pwyllgor Craffu
Mae'r Pwyllgor Craffu yn adolygu, yn monitro ac yn adrodd ar weithrediad gwaith y PSA wrth graffu ar waith y deg corff rheoleiddio gofal iechyd, y prosesau ar gyfer cymeradwyo penodiadau i'r cyrff hynny, a'r Rhaglen Cofrestrau Achrededig a oruchwylir gan y PSA. Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn. Nid yw’r cyfarfodydd hyn yn agored i’r cyhoedd, fodd bynnag, os hoffech gopi o’r cofnodion, anfonwch e-bost at executive.inbox@professionalstandards.org.uk
Pwyllgor Enwebiadau
Mae’r Pwyllgor Enwebiadau yn sicrhau bod gan y PSA aelodaeth briodol o’r Bwrdd. Cynhelir tri neu bedwar cyfarfod bob blwyddyn, yn dibynnu ar yr angen.