Ymddygiadau rhywiol rhwng ymarferwyr iechyd a gofal: ble mae'r ffin?
08 Mai 2018
Rydym wedi sylwi y gallai paneli addasrwydd i ymarfer rheolyddion drin camymddwyn rhywiol rhwng cydweithwyr yn llai difrifol na phan eir y tu hwnt i ffiniau rhywiol cleifion. Credwn y gall y math hwn o ymddygiad gael effaith negyddol ar ddiogelwch cleifion, felly fe wnaethom gomisiynu ymchwil i gael safbwyntiau cyhoeddus a phroffesiynol ar y pwnc.
Ydy rhyw rhwng cydweithwyr yn rhoi cleifion mewn perygl?
Dyma’r cwestiwn a ofynnwyd gennym pan wnaethom sylwi y gallai gweithwyr proffesiynol sy’n destun achosion addasrwydd i ymarfer am gamymddwyn rhywiol tuag at gydweithwyr dderbyn llai o sancsiynau na gweithwyr proffesiynol a oedd wedi croesi ffiniau rhywiol gyda’u cleifion. Cyfeiriwyd tri achos o'r fath i'r Llys o dan ein pwerau i apelio yn erbyn penderfyniadau panel rheoleiddwyr ond collwyd.
Pam y gwnaethom gomisiynu’r ymchwil hwn?
Roeddem am ddarganfod a oedd ein barn ar ba mor ddifrifol y dylid trin yr ymddygiad hwn yn groes i farn y cyhoedd. Archwiliodd yr ymchwil a gynhaliwyd ar ein rhan gan Dr Simon Christmas a’i gydweithiwr farn gweithwyr iechyd proffesiynol a chleifion gan ddefnyddio senarios yn seiliedig ar achosion go iawn. Tri chwestiwn allweddol yr ymdrinnir â hwy yn yr adroddiad yw:
- Pryd mae ymddygiad tuag at/gyda chydweithiwr yn croesi ffin?
- Sut mae ymddygiad croesi ffiniau yn berthnasol i addasrwydd i ymarfer?
- Sut y dylai rheolyddion ymateb i ymddygiad o'r fath?
Beth ddatgelodd yr ymchwil?
Amlygodd yr ymchwil farn cyfranogwyr ar sut y gall y math hwn o ymddygiad gael effaith negyddol ar ddiogelwch cleifion ac ansawdd eu gofal:
- gall dynnu sylw at broblemau a chymhellion dwfn o ran agwedd – gan gynnwys diffyg empathi (yr oedd llawer o’r cyfweleion yn meddwl ei fod yn nodwedd hanfodol mewn gweithiwr iechyd proffesiynol) a allai achosi risg i gleifion
- gall fod effeithiau ehangach o ymddygiad croesi ffiniau, gan gynnwys yr effaith a gaiff ar y cydweithiwr sy’n destun iddo (straen, gwrthdyniad, pryder)
- gall greu diwylliant lle mae ymddygiad croesi ffiniau yn dod yn dderbyniol (gan greu amgylcheddau gwaith gwenwynig o bosibl lle caiff bwlio ei normaleiddio)
- gall effeithio ar hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol lle mae ymddygiad o'r fath yn cael ei dystio neu ei glywed.
Beth nesaf?
Mae'r ymchwil hwn wedi dangos 'sut' mae pobl yn meddwl am ymddygiad rhywiol rhwng cydweithwyr a phryd mae'n croesi ffiniau. Credwn y bydd yn adnodd gwerthfawr i baneli rheoleiddio sy’n meddwl am achosion o’r math hwn. Mae'n amlygu pwysigrwydd ymddygiad proffesiynol wrth amddiffyn cleifion a chynnal hyder y cyhoedd.
Darganfod mwy?
Yn ogystal â'r adroddiad, mae yna hefyd ffeithlun sy'n rhoi crynodeb gweledol sy'n amlygu rhai o'r canfyddiadau allweddol.
Darllenwch fwy am ein hymchwil ar gamymddwyn rhywiol neu dewch o hyd i'n holl adroddiadau ymchwil yma .