Tryloywder

Rydym yn dangos ein hymrwymiad i dryloywder drwy ddatgelu gwybodaeth yn ymwneud â’r canlynol:

Lletygarwch

Defnyddiwn y diffiniad canlynol o letygarwch: triniaeth gyfeillgar a hael gwesteion neu ddieithriaid (a roddir neu a dderbynnir) gan aelodau neu Gyfarwyddwyr yr Awdurdod, gan gynnwys cost prydau bwyd, tra ar fusnes swyddogol yr Awdurdod. Gallwch ddarganfod mwy am wariant ar Letygarwch ac anrhegion ar gyfer 2021/22 , 2020/21, 2019/20, 2018/19, 2017/18 ac ar gyfer 2016/17.

Gwaharddiadau: brechdanau a lletygarwch bach arall gwerth llai na £25.00.

Treuliau

Rydym yn cyhoeddi treuliau chwarterol ar gyfer Aelodau ein Bwrdd a'n Tîm Rheoli. Mae rhai o’n haelodau Bwrdd wedi’u lleoli y tu allan i Lundain, a chan fod llawer o’n Bwrdd a chyfarfodydd eraill yn cael eu cynnal yn Llundain, felly maent yn debygol o wynebu costau teithio uwch na’r rhai a leolir yn Llundain.

Mae'n bosibl na fydd rhai treuliau sy'n ymwneud â digwyddiad yn cael eu postio yn yr un chwarter oherwydd amseriad hawliadau treuliau aelodau a ffactorau eraill yn ymwneud â'n prosesau cyllid.

Gweler y dogfennau isod: