Cofrestrau Achrededig — cwynion ac apeliadau
Ein gwasanaeth
Os ydych am roi adborth neu os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth a ddarparwyd gennym drwy'r rhaglen Cofrestrau Achrededig, bydd y Tîm Achredu yn hapus i drafod. Gallwch gysylltu â’r tîm drwy e-bost yn AR@professionalstandards.org.uk , neu dros y ffôn ar 020 7389 8030.
Os oes gennych bryder o hyd, neu os hoffech i’ch cwyn gael ei hystyried gan rywun y tu allan i’r Tîm Achredu, yna gallwch ddefnyddio ein proses gwyno sefydliadol .
Apelio yn erbyn penderfyniad achredu
Gall cofrestrau apelio yn erbyn penderfyniad sy'n effeithio ar eu statws achredu. Ceir rhagor o fanylion am sut i wneud hyn yn ein Polisi Apeliadau .
Cwynion am iechyd a gofal
Dylid codi cwynion am y Gofrestr neu un o'i chofrestryddion yn uniongyrchol gyda'r Gofrestr gan na allwn ymyrryd mewn pryderon unigol. Gallwch ddod o hyd i fanylion am sut i gysylltu â Chofrestr ar ein tudalen Dod o Hyd i Gofrestr .
Os nad ydych wedi gallu datrys cwyn gyda'r Gofrestr, yna gallwch ddefnyddio ein ffurflen Rhannu eich Profiad i ddweud wrthym amdano. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon yn ein hasesiad nesaf o sut mae'r Gofrestr yn bodloni ein Safonau ar gyfer cofrestrau achrededig .
Dolenni defnyddiol
Dysgwch fwy am apeliadau yn ein polisi neu lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen Apêl
Delio â chwynion
Dysgwch fwy am ein trefn gwyno
Rhannwch eich profiad
Mae gwrando ar eich profiadau o gofrestr achrededig yn ein helpu i ddeall pa mor dda y maent yn diogelu’r cyhoedd a phenderfynu a yw ein Safonau wedi’u bodloni. Dysgwch fwy am sut i rannu eich adborth am Gofrestrau Achrededig.