Canllawiau drafft y GOsC ar feini prawf trothwy ar gyfer ymddygiad proffesiynol annerbyniol
30 Rhagfyr 2014
Cefndir
Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i ymgynghoriad y Cyngor Osteopathig Cyffredinol ar ganllawiau arfaethedig ar feini prawf trothwy ar gyfer ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
O 2019 ymlaen, rydym bellach yn goruchwylio deg rheolydd proffesiynol iechyd a gofal - gan gynnwys y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) - ac yn adrodd yn flynyddol i'r Senedd ar eu perfformiad. Gallwn hefyd apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os yw’r canlyniadau’n rhy drugarog a’u bod er budd y cyhoedd.
Rydym yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn am ganllawiau arfaethedig y GOsC ar feini prawf trothwy ar gyfer sefydlu ymddygiad proffesiynol annerbyniol. Yn unol â’n hamcan statudol, gwneir y sylwadau a ddarparwn at ddiben hyrwyddo buddiannau cleifion a’r cyhoedd yn ehangach mewn perthynas â pherfformiad y GOsC o’i swyddogaeth addasrwydd i ymarfer.