Rheoliad Fferylliaeth Gogledd Iwerddon
28 Mehefin 2016
Crynodeb
Mae'r Awdurdod yn cefnogi'r cynigion i wahanu rheoleiddio proffesiynol ac arweinyddiaeth broffesiynol. Yn ein barn ni, byddai hyn yn cael ei gyflawni’n fwyaf effeithlon ac effeithiol drwy drosglwyddo pwerau rheoleiddio’r PSNI i’r CFfC. Diben rheoleiddio yw amddiffyn y cyhoedd, cynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiwn, a chynnal safonau proffesiynol. Mae arweinyddiaeth broffesiynol yn gweithio i hyrwyddo buddiannau'r proffesiwn, ac felly dylai fod ar wahân i unrhyw drefniadau rheoleiddio.
Rydym yn deall y pryderon a allai fod gan rai rhanddeiliaid yng Ngogledd Iwerddon am reoleiddiwr pedair gwlad yn llai o gysylltiad â materion lleol. Fodd bynnag, yn ein barn ni, gellid lliniaru’r risg hon gan y mesurau llywodraethu a awgrymwyd yn y ddogfen ymgynghori. At hynny, credwn fod y manteision o ran cost-effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a symudedd gweithlu rheoleiddiwr DU gyfan yn llawer mwy na'r risg hon.