Ymgynghoriad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ymarfer uwch ym maes iechyd y cyhoedd
07 Ionawr 2015
Cefndir
Rydym yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ar ei gynllun arfaethedig ar gyfer cydnabod ymarferwyr iechyd y cyhoedd sy’n gweithio ar lefel uwch o ymarfer iechyd y cyhoedd. Nid oes gennym unrhyw farn ar y materion a gwmpesir gan y cwestiynau a ofynnir yn y ddogfen ymgynghori. Fodd bynnag, hoffem wneud rhai sylwadau a fydd, gobeithio, o gymorth.