Ein pwyllgorau

Cefnogir gwaith ein Bwrdd gan ein Pwyllgor Archwilio a Risg, y Pwyllgor Craffu, y Pwyllgor Cyllid a'n Pwyllgor Enwebiadau.

Pwyllgor Archwilio a Risg

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn helpu’r Bwrdd i sicrhau ein bod yn cael ein llywodraethu’n dda ac yn rheoli risgiau. Mae’n cynnwys tri aelod anweithredol o’r Bwrdd a chaiff ei gadeirio gan Nick Simkins. Mae'n adrodd i'r Bwrdd yn ysgrifenedig a chaiff ei Gadeirydd gyfle i godi materion ym mhob cyfarfod Bwrdd. Mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg yn darparu Adroddiad Blynyddol i'r Bwrdd, sy'n crynhoi'r prif feysydd gwaith a gyflawnwyd gan y pwyllgor yn ystod y flwyddyn flaenorol. 

Pwyllgor Craffu

Mae'r Pwyllgor Craffu yn adolygu, yn monitro ac yn adrodd ar weithrediad gwaith y PSA wrth graffu ar waith y deg corff rheoleiddio gofal iechyd; y prosesau ar gyfer cymeradwyo penodiadau i'r cyrff hynny, a'r rhaglen Cofrestrau Achrededig a oruchwyliwn. Mae'n cyfarfod ym mis Chwefror, Ebrill a Hydref. Nid yw’r cyfarfodydd hyn yn agored i’r cyhoedd, fodd bynnag, os hoffech gopi o’r cofnodion, e-bostiwch info@professionalstandards.org.uk

Pwyllgor Enwebiadau

Mae'r Pwyllgor Enwebiadau yn sicrhau bod gan y PSA aelodaeth briodol o'r Bwrdd. Cynhelir cyfarfodydd yn ôl yr angen.