Prif gynnwys
Ymateb i ymgynghoriad y Cyngor Optegol Cyffredinol ar ei Ganllawiau Sancsiynau Dangosol
25 Tachwedd 2025
Fe wnaethom groesawu'r cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad hwn gan y GOC ar ei Ganllawiau Sancsiynau Dangosol drafft.
Yn ein hymateb, nodwyd y dylid gwella agweddau ar y canllawiau i atal effeithiau negyddol clir ar degwch, hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a diogelu'r cyhoedd. Mae'r pwyntiau hyn yn ymwneud â'r diffiniad o dystion agored i niwed, yr ydym yn credu y dylid ei ehangu yn unol â dealltwriaeth fodern o agored i niwed, a'r angen i wella eglurder y canllawiau mewn perthynas â chlywed, gwrandawiadau adolygu a chamymddwyn rhywiol.