Ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth yr Alban ar drwyddedu colur anlawfeddygol
19 Chwefror 2025
Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth yr Alban ar reoleiddio triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol.
Yn ein hymateb, rydym wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth yr Alban i wahardd triniaethau penodol ar gyfer rhai dan 18 oed, gan ddod â’r Alban yn unol â Lloegr i leihau’r risg o ‘dwristiaeth gosmetig’ ledled y DU.
Credwn y dylai unrhyw gynllun a gyflwynir fod yn syml ac yn dryloyw. Rhaid cyfathrebu'r gofynion ar gyfer gweithdrefnau gwahanol yn glir gyda'r cyhoedd fel eu bod yn gwybod beth i chwilio amdano a sut i ddewis ymarferwr.