Adolygiad o Gofrestru a Rheoleiddio Proffesiynol 2016/17 (gydag adroddiad blynyddol a chyfrifon)

30 Mehefin 2017

Cefndir

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio ein barn am reoleiddio a chofrestru pobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal yn y DU yn 2016/17. Mae’n cyflawni ein dyletswydd gyfreithiol i hysbysu’r Senedd bob blwyddyn pa mor effeithiol y mae rheoleiddio a chofrestru yn diogelu’r cyhoedd. Mae ein harsylwadau yn tynnu ar dystiolaeth o adolygiadau perfformiad, archwiliadau, gweithgareddau polisi ac ymchwil. Rydym hefyd wedi nodi barn pobl sydd wedi cysylltu â ni am y rheolyddion a chofrestrau achrededig neu wedi ymateb i'n hymgynghoriadau ac wedi tynnu ar ffynonellau cyhoeddedig y rheolyddion a'r cofrestrau yn ogystal ag eraill.

Dyma'r ail adolygiad o reoleiddio a chofrestru proffesiynol yn y fformat hwn. Mae’n rhoi’r cyfle i ni mewn un adroddiad dynnu allan themâu cyffredinol sy’n codi o’n trosolwg o’r naw rheolydd proffesiynol a 23 cofrestr achrededig yn ogystal â mewnwelediad o’n gwaith ym maes ymchwil a pholisi rheoleiddio. Yma rydym yn rhoi ein barn i’r Senedd ar ba mor dda y mae’r fframwaith rheoleiddio yn gweithredu i ddiogelu’r cyhoedd, cynnal safonau, a chynnal hyder y cyhoedd. Rydym hefyd yn cyhoeddi adroddiadau ar wahân ar y naw rheolydd.

Mae model rheoleiddio proffesiynol y DU yn cael ei barchu’n eang. Mae'r Awdurdod ei hun yn cael ei ystyried yn rhyngwladol fel arweinydd meddwl a datblygiad rheoleiddiol. Yn ogystal â chynghori ein llywodraethau yn y DU, rydym wedi cael ein galw am gyngor ac arbenigedd gan lywodraethau a rheoleiddwyr yn Awstralia, Canada, Iwerddon, Hong Kong, a Seland Newydd. Mae'r profiad hwn wrth gwrs wedi ehangu ein hamlygiad a'n dealltwriaeth o reoleiddio effeithiol. Mae’n ddrwg gennym felly, i orfod mynegi rhywfaint o bryder ynghylch cadernid parhaus y fframwaith rheoleiddio yn y DU.

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Gweler yr holl gyhoeddiadau