Prif gynnwys
Arfer da wrth lunio rheolau: canllawiau i reoleiddwyr
24 Mehefin 2025
Mae'r canllawiau hyn i gefnogi rheoleiddwyr i weithredu a defnyddio eu pwerau newydd (ar ôl eu diwygio) a fydd yn caniatáu iddynt wneud a diwygio eu rheolau gweithredol eu hunain.
Ar hyn o bryd, mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i'r broses gwneud rheolau a nodir yng Ngorchymyn Cymdeithion Anesthesia a Chymdeithion Meddygol (Gorchymyn AAPA).
Disgwylir i'r Gorchymyn hwn weithredu fel y templed ar gyfer diwygio ar draws y rheoleiddwyr gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Nid yw'n berthnasol i unrhyw reoleiddiwr nes bod eu pwerau'n cael eu diwygio i'w cyd-fynd â'r rhai a nodir yng Ngorchymyn AAPA.
Ar hyn o bryd mae'r Llywodraeth yn y broses o ddiwygio'r ddeddfwriaeth ar gyfer naw o'r rheoleiddwyr gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yr ydym yn eu goruchwylio, gan roi ystod o bwerau newydd iddynt a chaniatáu iddynt weithredu mewn ffordd wahanol iawn. Bydd hyn yn cynnwys newidiadau i sut mae rheoleiddwyr yn gwneud ac yn diwygio rheolau sy'n amlinellu eu prosesau gweithredol.
Bwriedir y canllawiau hyn i reoleiddwyr gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eu defnyddio wrth ddatblygu eu canllawiau a'u prosesau llunio rheolau eu hunain. I'r rhan fwyaf o reoleiddwyr, dim ond ar ôl i'w deddfwriaeth gael ei diweddaru yn unol â rhaglen diwygio rheoleiddio'r llywodraeth y bydd hyn yn berthnasol.
Nid yw'r canllawiau hyn yn orfodol, a gall rheoleiddwyr fabwysiadu dull gwahanol wrth lunio eu dull a'u canllawiau ar lunio rheolau. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried ein canllawiau pan fyddwn yn asesu sut mae rheoleiddwyr yn defnyddio eu pwerau newydd o dan ein hadolygiad o'u perfformiad. Mae rhagor o wybodaeth yn y canllawiau ynghylch sut y byddwn yn defnyddio'r canllawiau hyn mewn perthynas â'n hadolygiad perfformiad.