Adroddiad Blynyddol 2014-15

11 Ebrill 2016

Cyflwyniad y Prif Weithredwr

Fel y dengys yr adroddiad hwn, mae'r Awdurdod wedi parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu'r cyhoedd, gwella rheoleiddio proffesiynol a chyflawni ein holl swyddogaethau statudol yn effeithiol.

Cynhaliwyd ein hadolygiad perfformiad blynyddol o’r holl reoleiddwyr rhwng Medi 2014 a Mai 2015 a disgrifir hyn yn fanwl yng Nghyfrol II yr adroddiad hwn. Rydym hefyd wedi parhau â'n cylch o archwiliadau ar sail risg o gamau cychwynnol penderfyniadau addasrwydd i ymarfer.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ein llwyth gwaith o adolygu'r holl benderfyniadau addasrwydd i ymarfer terfynol gan y rheolyddion wedi parhau i dyfu ac mae cyfran yr achosion rydym yn apelio, er yn fach iawn, hefyd wedi parhau i dyfu.

Mae'r rhaglen Cofrestrau Achrededig, er ei bod yn dal yn gymharol newydd, bellach wedi'i hintegreiddio'n llawn i'n cynlluniau gwaith, ein llywodraethu a'n rheolaeth ariannol. Gyda 18 o gofrestrau wedi'u hachredu ar gyfer tua 65,000 o weithwyr proffesiynol, mae'n gwneud cyfraniad gwerthfawr at ddewis ac ansawdd mewn iechyd a gofal.

Mae ein gwaith polisi a'n rhaglen ymchwil wedi parhau i dyfu mewn dylanwad.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni, mewn ymateb i gomisiwn gan yr Adran Iechyd, wedi rhoi cyngor ar y Ddyletswydd Gonestrwydd. Fe wnaethom hefyd edrych yn fanwl ar faterion yn ymwneud â gwaith cymdeithasol, maes cyfrifoldeb cymharol newydd i ni. Mewn ymchwil, rydym yn archwilio sut y gallwn wneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r data sydd gennym ni ein hunain ar berfformiad proffesiynol. Daeth nifer dda i’n cynhadledd ymchwil flynyddol a chafwyd canmoliaeth eang iddi.

Mae ein henw da rhyngwladol, fel y dangosir gan y nifer fawr o geisiadau am gymorth a chyngor a gawn, yn arwyddocaol. Rydym wedi bod yn falch o barhau â'n perthynas â chyrff rheoleiddio yn Seland Newydd, Canada ac Iwerddon. Rydym wedi cynghori cydweithwyr yn Hong Kong ar sefydlu cofrestrau achrededig yno. Roeddem yn falch o ennill contract gan Gyngor Gweinidogion Iechyd Awstralia i roi cyngor ar effeithlonrwydd a chost effeithiolrwydd rheoleiddio gweithwyr iechyd yn Awstralia fel rhan o'u hadolygiad o'r Cynllun Achredu a Chofrestru Cenedlaethol.

Rydym wedi ymrwymo i arfer gorau mewn llywodraethu a gweithrediadau a rheolaeth ariannol. Rydym wedi treulio amser ac ymdrech arbennig yn paratoi ar gyfer ein trefniadau ariannol newydd fel y nodir yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 a'r Rheoliadau Ffioedd dilynol. Mae'r trefniadau newydd wedi galw am newid sylweddol yn ein harferion cyllidebu a chyfrifyddu ac wedi achosi i ni feddwl yn ofalus am risgiau newydd a sicrwydd newydd. Mae'r Bwrdd wedi bod yn arbennig o ystyriol o'r materion hyn tra, ar yr un pryd, yn cynnal cynhyrchiant ac ansawdd uchel ein gweithgareddau. 

Darllenwch yr adroddiad llawn yn y PDF isod.

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Gweler yr holl gyhoeddiadau