Ein Pwyllgorau

Cefnogir gwaith ein Bwrdd gan ein Pwyllgor Archwilio a Risg, y Pwyllgor Craffu, y Pwyllgor Cyllid a'n Pwyllgor Enwebiadau.

Pwyllgor Archwilio a Risg

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn helpu’r Bwrdd i wneud yn siŵr ein bod yn cael ein llywodraethu’n dda ac yn rheoli risgiau. Mae tri aelod anweithredol o'n Bwrdd yn eistedd ar y pwyllgor hwn. Frances Done yw ei Gadeirydd. Mae'r Pwyllgor yn adrodd yn ysgrifenedig i'r Bwrdd a rhoddir cyfle i'r Cadeirydd godi materion yn y Bwrdd bob tro y mae'n cyfarfod. Mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg yn darparu Adroddiad Blynyddol i'r Bwrdd, sy'n crynhoi'r prif feysydd gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Pwyllgor Craffu

Mae'r Pwyllgor Craffu yn adolygu, yn monitro ac yn adrodd ar weithrediad gwaith yr Awdurdod wrth graffu ar waith y naw corff rheoleiddio gofal iechyd, y prosesau ar gyfer cymeradwyo penodiadau i'r cyrff hynny, a'r rhaglen Cofrestrau Achrededig a oruchwylir gan yr Awdurdod. Cynhelir cyfarfodydd yn Chwefror, Ebrill a Hydref. Nid yw’r cyfarfodydd hyn yn agored i’r cyhoedd, fodd bynnag, os hoffech gopi o’r cofnodion, e-bostiwch info@professionalstandards.org.uk

Pwyllgor Enwebiadau

Mae'r Pwyllgor Enwebiadau yn sicrhau bod gan yr Awdurdod aelodaeth briodol o'r Bwrdd. Cynhelir cyfarfodydd yn ôl yr angen.