Prif gynnwys

Baner tudalen

Safonau Cyffredinol

Eicon sy'n darlunio ffolder a ddefnyddir i ddarlunio safonau cyffredinol y PSA

Safonau Cyffredinol

Ein dau Safon Gyffredinol sy'n ymdrin â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a sut mae rheoleiddwyr a Chofrestrau Achrededig yn ymgysylltu ac yn gweithio gydag eraill. (Rydym yn defnyddio'r term "sefydliad" i gyfeirio at reoleiddwyr a Chofrestrau Achrededig.)

Dychwelyd i'r rhestr lawn o Safonau

Safon 3: Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Beth ydym ni'n ei ddisgwyl?

Mae'r sefydliad yn ymgysylltu ac yn cydweithio'n effeithiol, er mwyn llywio, gwella a chyflawni ei waith. Mae'n ceisio aliniad priodol â sefydliadau eraill, ac yn nodi ac yn rheoli risgiau i'r cyhoedd mewn perthynas â'i gofrestreion. 

Pam mae'n bwysig?

Drwy ymgynghori a gweithio gyda sefydliadau eraill gellir datblygu polisïau gwell. Gall rhannu gwybodaeth briodol am faterion diogelwch cleifion a defnyddwyr gwasanaethau helpu i atal niwed.

Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol?

  • Mae cydweithio rhwng rheoleiddwyr, cofrestrau a sefydliadau perthnasol eraill, gan gynnwys cyfnewid gwybodaeth briodol sy'n ymwneud â risg a niwed i'r cyhoedd.
  • Mae polisïau a phrosesau’n cael eu llywio gan safbwyntiau sefydliadau a phobl eraill, a’r wybodaeth a’r dystiolaeth a ddarperir ganddynt, er mwyn cefnogi a hyrwyddo diogelu’r cyhoedd yn well.
  • Lle bo'n briodol ac yn fuddiol i ddiogelu'r cyhoedd ac ansawdd gofal, mae polisïau a phrosesau wedi'u halinio â rhai sefydliadau a rheoleiddwyr / cofrestrau eraill ac yn hyrwyddo cysondeb canlyniadau ar draws y proffesiynau iechyd a gofal.

Safon 4: Ymgysylltu a gweithio gydag eraill

Ein Safonau

Rydym yn gosod safonau ar gyfer rheolyddion a Chofrestrau Achrededig. Ein safonau yw sail ein gwaith...