Datganiad hawlfraint
Mae'r wefan hon yn © Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2023 .
Gwefan a chyhoeddiadau'r Awdurdod
Mae'r deunydd a welir ar y wefan hon yn destun amddiffyniad hawlfraint yr Awdurdod Safonau Proffesiynol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (yr Awdurdod) oni nodir yn wahanol.
Gellir atgynhyrchu deunydd yr Awdurdod a warchodir gan hawlfraint yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar gyfer ymchwil, astudiaeth breifat neu i'w ddosbarthu'n fewnol o fewn sefydliad. Mae hyn yn amodol ar atgynhyrchu'r deunydd yn gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.
Lle mae unrhyw un o eitemau hawlfraint yr Awdurdod ar y wefan hon yn cael eu hailgyhoeddi neu eu copïo i eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws hawlfraint.
Deunydd trydydd parti
Nid yw caniatâd i atgynhyrchu deunydd a warchodir gan yr Awdurdod yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan hon y nodir ei fod yn hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael awdurdodiad i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.
Defnydd o logo corfforaethol yr Awdurdod
Gwaherddir defnydd o logo'r Awdurdod gan bartïon allanol o dan unrhyw amgylchiadau - mae hyn er mwyn atal unrhyw oblygiadau o ardystiad. Wrth i ni oruchwylio'r naw rheolydd gofal iechyd proffesiynol yn y DU, ni ellir ystyried bod yr Awdurdod yn gweithredu mewn ffordd y gellid ei ddehongli fel cefnogaeth i sefydliad, darparwr gwasanaeth neu gofrestrydd annibynnol penodol.
Defnydd o logo Cofrestrau Achrededig yr Awdurdod
Gwaherddir defnydd o logo'r Awdurdod gan bartïon allanol o dan unrhyw amgylchiadau, ac eithrio pan fydd caniatâd penodol wedi'i roi o ganlyniad uniongyrchol i gais llwyddiannus am achredu cofrestr. Mae hyn er mwyn atal unrhyw oblygiad o gymeradwyaeth. Gan ein bod yn achredu cofrestrau o bobl sy'n gweithio mewn amrywiaeth o alwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ni ellir ystyried bod yr Awdurdod yn gweithredu mewn modd y gellid ei ddehongli fel cefnogaeth i sefydliad neu bersonau penodol.
Telerau ac Amodau
I gael rhagor o wybodaeth am delerau ac amodau defnydd llawn y wefan hon cliciwch yma .
Cysylltwch
Os oes gennych ymholiad hawlfraint, anfonwch e-bost at Lesley Loughran