Cofrestrau Achrededig - Sicrhau bod ymarferwyr iechyd a gofal yn gymwys ac yn ddiogel 2015
12 Mawrth 2015
Gwybodaeth allweddol
Mae'r adroddiad hwn yn disgrifio llwyddiant y rhaglen Cofrestrau Achrededig, a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl. Mae'n egluro sut mae Cofrestrau Achrededig yn helpu i ddarparu gofal a gwella iechyd cleifion a defnyddwyr gwasanaeth ac yn dangos bod ganddynt y gallu i wneud llawer mwy.
Yn 2012, ehangodd y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol ein rôl i gynnwys y nifer fawr o ymarferwyr eraill sydd hefyd yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mewn galwedigaethau nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan statud.
- Rydym yn gosod safonau ansawdd ar gyfer sefydliadau sy'n cofrestru ymarferwyr iechyd a gofal, yn ymrwymo i arfer gorau ac yn cymryd camau pan fo angen i ddiogelu'r cyhoedd
- Hyd yn hyn mae 17 o gofrestrau achrededig sy'n cwmpasu 63,000 o ymarferwyr
- Mae'r ystod o alwedigaethau y mae hyn yn eu cwmpasu yn cynnwys cwnselwyr a seicotherapyddion sy'n helpu i wella ein hiechyd meddwl; gwyddonwyr gofal iechyd sy'n helpu i wneud diagnosis o'n salwch, therapyddion cyflenwol, sy'n aml yn gweithio mewn hosbisau a chanolfannau canser, ac adsefydlu chwaraeon sy'n helpu pobl i oresgyn anabledd
- Dengys yr adroddiad hwn y gall y gweithlu hwn helpu llywodraethau a chyrff cyhoeddus i gyflawni eu nod o wella iechyd a thrawsnewid gwasanaethau. Mae’n dangos i gyflogwyr, comisiynwyr a’r cyhoedd y gallant fod â hyder mewn Cofrestrau Achrededig a’u hymarferwyr.