Prif gynnwys

Adolygu Perfformiad - Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon 2020/21

23 Mehefin 2022

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon

Ystadegau allweddol

  • yn rheoleiddio ymarfer fferyllwyr a hefyd yn cofrestru safleoedd fferyllol yng Ngogledd Iwerddon
  • 2,870 o weithwyr fferyllol proffesiynol ar y gofrestr; 553 o fferyllfeydd (ar 30 Medi 2021)
  • Ffi flynyddol o £398 am gofrestru (£155 i fferyllfeydd)

Uchafbwyntiau

Mae'r PSNI wedi bodloni 17 o'r 18 Safon Rheoleiddio Da. Nid oedd yn bodloni Safon 15 oherwydd, er ei fod wedi mynd i’r afael â’r pryderon a adroddwyd gennym am ei broses addasrwydd i ymarfer ers ein harchwiliad yn 2018/19, roedd gennym bryderon ynghylch tegwch a thryloywder sawl agwedd arall ar ei broses.

Safonau Cyffredinol: deall amrywiaeth pobl eraill sy'n rhyngweithio â'r rheolydd

Y llynedd, roeddem yn bryderus nad oedd y PSNI yn casglu nac yn dadansoddi data EDI ar aelodau ei Gyngor neu Bwyllgor. Mae'r PSNI yn haeru nad oes ganddo unrhyw reswm dilys dros gasglu data cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) ar ei aelodau Cyngor. Ein barn ni yw bod hyn yn bwysig er mwyn iddo gael dealltwriaeth lawn o amrywiaeth ei benderfynwyr. Fodd bynnag, mae'r PSNI wedi dechrau casglu data ar ei aelodau Pwyllgor eleni ac wedi nodi meysydd posibl i'w gwella. Mae hefyd yn cadw swm rhesymol o ddata am amrywiaeth ei gofrestreion ac yn defnyddio hwn i lywio ei waith, gan gynnwys ei Asesiadau Effaith Cydraddoldeb, sydd o safon dda. Ar ôl pwyso a mesur, penderfynasom fod y PSNI wedi bodloni Safon 3 eleni.

Addysg a Hyfforddiant: mae gan y rheolydd fecanwaith cymesur a thryloyw ar gyfer sicrhau ei hun bod y darparwyr addysg yn darparu myfyrwyr a hyfforddeion sy’n bodloni ei ofynion

Amharwyd ar gynlluniau'r PSNI a'r CFfC i gynnal eisteddiad cyntaf yr asesiad cofrestru cyffredin ar y cyd ym mis Mehefin 2021 gan y pandemig. Er mwyn osgoi oedi i ymgeiswyr, trefnodd y PSNI ei asesiad cofrestru ar wahân ei hun ym mis Mehefin 2021 ac ni adroddwyd am unrhyw broblemau gyda'r eisteddiadau. Roedd y gyfradd lwyddo yn debyg i flynyddoedd blaenorol a chroesawyd penderfyniad y PSNI i fwrw ymlaen ag asesiad cofrestru ar wahân gan randdeiliaid.

Proses Addasrwydd i Ymarfer

Mae’r PSNI wedi mynd i’r afael â’r pryderon a adroddwyd gennym yn 2018/19. Rhennir gwybodaeth am y broses yn rheolaidd gyda chyfranogwyr, darperir diweddariadau achos yn unol â pholisi Cyfathrebu addasrwydd i ymarfer newydd y PSNI a chaiff rhesymau dros benderfyniadau eu cofnodi ar yr un pryd a'u rhannu â'r cyfranogwyr. Er bod hyn yn golygu bod Safon 18 wedi’i bodloni eleni, gwnaethom benderfynu nad oedd Safon 15 wedi’i bodloni oherwydd inni nodi pryderon eraill ynghylch y broses addasrwydd i ymarfer:

  • nid yw cofrestryddion bob amser yn cael gwybod yn benodol eu bod yn destun ymchwiliad
  • safbwynt y PSNI ar ymchwilio i achosion heb ganiatâd yr achwynydd yw nad yw’n ystyried ei bod yn briodol datgelu manylion achwynydd yn groes i’w ddymuniadau, hyd yn oed mewn achosion difrifol 
  • ni dderbyniodd y PSNI, os yw cofrestrai sy’n destun ymchwiliad yn adnabod y Cofrestrydd, y gallai hyn fod yn wrthdaro buddiannau canfyddedig neu wirioneddol
  • nid yw'r PSNI wedi cyhoeddi gwybodaeth yn nodi ei ddehongliad o bwerau'r Pwyllgor Statudol wrth adolygu Gorchmynion Amodau Ymarfer.
  • Credwn ei bod yn bwysig bod y PSNI yn mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn.
     

Credwn ei bod yn bwysig bod y PSNI yn mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn.

Safonau Cyffredinol

5

5 allan o 5

Canllawiau a Safonau

2

2 allan o 2

Addysg a Hyfforddiant

2

2 allan o 2

Cofrestru

4

4 allan o 4

Addasrwydd i Ymarfer

4

4 allan o 5

cyfanswm

17

17 allan o 18