Adolygiad strategol o'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
11 Ebrill 2016
Cefndir
Ym mis Ionawr 2012, comisiynodd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yr Adran Iechyd yr Awdurdod Safonau Proffesiynol (CHRE bryd hynny) i gynnal adolygiad strategol o’r NMC. Dyma ein hadroddiad terfynol. Cyhoeddwyd adroddiad interim gennym ym mis Ebrill.
Mae gan reoleiddiwr ddau gyfrifoldeb allweddol: amddiffyn y cyhoedd a chynnal hyder y cyhoedd. Yn achos yr NMC, mae hyn yn golygu cynnal hyder yn ymarfer nyrsys a bydwragedd. Mae’r NMC wedi parhau i gyflawni ei ddyletswyddau diogelu’r cyhoedd, er nad yw cystal ag y dylai ond, fel y mae ei randdeiliaid yn nodi’n glir, nid yw’n ennyn hyder yn y proffesiynau nac mewn rheoleiddio proffesiynol.
Crynodeb
Fel y dywedasom yn ein hadroddiad interim, wrth wraidd methiant yr NMC i lwyddo mae dryswch ynghylch ei ddiben rheoleiddio, diffyg cyfeiriad strategol clir, cyson, perthnasoedd gwaith anghytbwys a systemau busnes annigonol.
Amlygodd ein hadroddiad interim wendidau o ran llywodraethu, arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau a rheolaeth weithredol. Yn ein hadroddiad terfynol, rydym hefyd yn nodi stiwardiaeth ariannol wael, diwylliant goddefol, hierarchaidd o 'wydnwch wedi ymddiswyddo' ac yn rhoi rhagor o fanylion am y problemau gyda systemau rheoli a busnes yr NMC.
Roedd llawer o'r hyn a aeth o'i le yma yn gyfrifoldeb uniongyrchol arweinwyr yr NMC ac yn adlewyrchiad o'u cymysgedd sgiliau a'u gallu. Fodd bynnag, nid oes unrhyw sefydliad yn gweithredu ar ei ben ei hun a gall y cyd-destun y mae'n cynnal ei fusnes ynddo effeithio ar ei lwyddiant neu fethiant. Nid yw’r NMC wedi perfformio’n effeithlon, nid yw wedi gosod ei olygon yn gywir ar ei swyddogaethau rheoleiddio craidd ond mae hefyd wedi ymateb i ofynion a disgwyliadau allanol sydd eu hunain yn seiliedig ar gamddealltwriaeth o’i rôl a’i gyfrifoldebau priodol.
Mae ymateb yr NMC i'n hadolygiad yn galonogol. Mae wedi cydweithredu’n llawn, a bu cryn weithgarwch yn ddiweddar o dan gyfarwyddyd y Prif Weithredwr a’r Cadeirydd interim. Ond nid oes lle i laesu dwylo. Fel yr eglurwn yn ein dau adroddiad, mae’r problemau yma ar bob lefel, ym mhob system. Fodd bynnag, ymhlith ei staff, mae angerdd cryf dros ddiogelu'r cyhoedd, potensial i wneud pethau'n iawn a rhywfaint o dir ffrwythlon ar gyfer Cyngor clir, Cadeirydd a Phrif Weithredwr sy'n fedrus wrth drawsnewid sefydliad a sefydlu systemau rheoli cymwys. Rydym o’r farn bod y penodiadau newydd hyn yn hollbwysig i adfer hyder y cyhoedd yn yr NMC ac felly rydym wedi argymell bod diwydrwydd dyladwy yn cael ei arfer wrth benodi’r rolau hyn i sicrhau bod gan yr unigolion a benodir yn Gadeirydd a Phrif Weithredwr hygrededd personol, ymddygiadau arweinyddiaeth, cymwyseddau a sgiliau cyfathrebu angenrheidiol i weithredu'r newidiadau a nodir yn yr adolygiad strategol hwn.