Adroddiad Monitro - Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon 2022/23
26 Mawrth 2024
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI).
Ystadegau allweddol
- Mae’r PSNI yn rheoleiddio ymarfer fferyllwyr a hefyd yn cofrestru safleoedd fferyllol yng Ngogledd Iwerddon
- Roedd 3,141 o weithwyr fferyllol proffesiynol ar y gofrestr; 545 o fferyllfeydd (ar 31 Rhagfyr 2023)
Canfyddiadau allweddol
Ni chyflawnodd y PSNI Safon 4 oherwydd anallu'r PSNI i ddarparu gwybodaeth amserol a chywir i ni. Mae'r materion hyn yn codi cwestiynau difrifol am yr hyder y gallwn ni a Chyngor y PSNI fod yn adroddiadau'r PSNI a'r gallu i fynd i'r afael â'n pryderon.
Ni chyflawnodd y PSNI Safon 10 oherwydd y bu nifer o wallau cofrestru ar gofrestr y PSNI yn ystod y cyfnod adolygu. Nid oedd gan y PSNI brosesau a rheolaethau cadarn ar waith drwy gydol y cyfnod adolygu i sicrhau cywirdeb y gofrestr ac nid yw'r PSNI wedi cymryd camau eto i leihau'r risg o gamgymeriadau tebyg yn y dyfodol.
Ni chyflawnodd y PSNI Safon 15 oherwydd ei bod yn cymryd gormod o amser i ymdrin ag achosion addasrwydd i ymarfer ac mae nifer yr achosion hŷn agored wedi cynyddu. Nid oedd y PSNI yn gallu rhoi esboniad digonol i ni o'r rhesymau y tu ôl i'r oedi ar achosion a gaewyd gan y Pwyllgor Statudol yn ystod cyfnod yr adolygiad a'r camau a gymerodd i leihau oedi. Yn sgil ei lwyth achosion bach, ein barn ni yw y dylai’r PSNI allu rheoli oedi yn ei achosion yn fwy effeithiol.
PSNI 2022/23 Safonau Rheoleiddio Da wedi'u bodloni
Safonau Cyffredinol
44 allan o 5
Canllawiau a Safonau
22 allan o 2
Addysg a Hyfforddiant
22 allan o 2
Cofrestru
33 allan o 4
Addasrwydd i Ymarfer
44 allan o 5
Cyfanswm
1515 allan o 18