Adroddiad Monitro - Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2021/22

26 Medi 2022

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).

Ystadegau allweddol

  • Yn rheoleiddio ymarfer nyrsys a bydwragedd yn y DU a chymdeithion nyrsio yn Lloegr
  • 760,444 o weithwyr proffesiynol ar y gofrestr (ar 30 Mehefin 2022)
  • Tâl cofrestru blynyddol: £120 i bob unigolyn cofrestredig

Uchafbwyntiau

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Mehefin 2022.

Canfyddiadau Allweddol

  • Nid yw’r NMC wedi bodloni Safon 15 eto eleni, oherwydd ei bod yn dal i gymryd gormod o amser i gwblhau achosion addasrwydd i ymarfer. Mae clirio’r ôl-groniad yn flaenoriaeth i’r NMC: mae wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith ac wedi cyhoeddi adroddiadau cynnydd rheolaidd i’w Gyngor. Ond canlyniadau cymysg a gafodd y cynllun gweithredu eleni, ac mae ôl-groniad o hyd.
  • Datblygodd yr NMC gynllun gweithredu EDI ar gyfer 2022-25. Mae'r cynllun yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi canfyddiadau ymchwil i wahaniaethau ym mhrofiadau pobl o brosesau'r NMC sy'n gysylltiedig â nodweddion gwahanol, ac i gymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw annhegwch.  
  • Mae’r NMC yn parhau i ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid. Cawsom adborth cadarnhaol gan sawl sefydliad ynghylch sut mae’r NMC wedi ymgysylltu â nhw. Hefyd lansiodd ei Fforwm Llais y Cyhoedd eleni.
  • Lansiodd yr NMC adolygiad o’i safonau addysg cyn cofrestru. Mae’r adolygiad yn cynnwys dysgu o’r newidiadau a wnaeth i’w ofynion mewn ymateb i’r pandemig.
  • Mae’r NMC wedi cymryd camau i wella tryloywder ei broses apeliadau cofrestru. Cyflwynodd broses i adolygu a sicrhau ansawdd penderfyniadau Cofrestryddion Cynorthwyol, a chyhoeddodd wybodaeth wedi'i diweddaru am y broses apelio.

Safonau Cyffredinol

5

5 allan o 5

Canllawiau a Safonau

2

2 allan o 2

Addysg a Hyfforddiant

2

2 allan o 2

Cofrestru

4

4 allan o 4

Addasrwydd i Ymarfer

4

4 allan o 5

cyfanswm

17

17 allan o 18