Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig
31 Mai 2023
Rydym yn gosod Safonau ar gyfer sefydliadau sy'n cofrestru pobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol nad yw'n ofynnol iddynt gael eu rheoleiddio gan y gyfraith. Os yw sefydliad yn bodloni ein Safonau, rydym yn achredu eu cofrestr ac yn dyfarnu ein Marc Ansawdd iddynt. Mae ein Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig yn hyrwyddo arfer da.
Pan fydd Cofrestr Achrededig yn dangos ein Marc Ansawdd, mae'n dangos eu bod wedi ymrwymo i ddiogelu'r cyhoedd a'u bod yn gweithio i arfer da.
Rhaid i sefydliadau fodloni POB UN o'n Safonau i allu dangos eu bod yn cynnal yr egwyddorion hyn ac yn bodloni gofynion y Marc Safon.
Rhaid bodloni Safon Un, y prawf cymhwysedd a budd y cyhoedd, cyn inni asesu yn erbyn y Safonau Dau i Naw sy'n weddill. Ceir rhagor o wybodaeth am sut rydym yn asesu Safon Un yn ein Canllawiau Atodol ar gyfer Safon Un.
Ein Safonau yw:
- Cymhwysedd a budd y cyhoedd Mae'r sefydliad yn cadw cofrestr o bobl mewn rolau iechyd a/neu ofal cymdeithasol nad oes rhaid eu rheoleiddio gan y gyfraith. Mae’r gweithgareddau a gyflawnir gan ei gofrestryddion yn fuddiol i iechyd a/neu les y cyhoedd ac yn gorbwyso unrhyw risgiau/niwed. Caiff risgiau eu lliniaru gan safonau a gofynion y sefydliad ar gyfer cofrestreion.
- Rheoli'r gofrestr Mae'r sefydliad yn cynnal ac yn cyhoeddi cofrestr gywir o'r rhai sy'n bodloni ei ofynion gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar eu hymarfer.
- Safonau ar gyfer cofrestreion Mae'r sefydliad yn gosod safonau priodol ar gyfer cymhwysedd, ymddygiad proffesiynol a moesegol, ac arfer busnes.
- Addysg a hyfforddiant Mae'r sefydliad yn gosod safonau addysg priodol ar gyfer y rôl(rolau) cofrestredig ac yn sicrhau bod cofrestreion yn gallu nodi pryd y gall fod angen atgyfeirio at weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol arall.
- Cwynion a phryderon am gofrestreion Mae gan y sefydliad brosesau cadarn ar waith i sicrhau yr ymdrinnir â phryderon am gofrestreion mewn ffordd dryloyw, amserol a theg.
- Llywodraethu Mae llywodraethu'r sefydliad yn cefnogi diogelu'r cyhoedd ac yn hyrwyddo tryloywder, uniondeb ac atebolrwydd.
- Rheoli risgiau sy'n deillio o'r rôl(au) cofrestredig Mae gan y sefydliad ddealltwriaeth drylwyr o'r risgiau i ddefnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd a gyflwynir gan y gweithgareddau a gyflawnir gan ei gofrestryddion ac mae'n cymryd camau i'w lliniaru.
- Cyfathrebu ac ymgysylltu Mae'r sefydliad yn darparu gwybodaeth glir a hygyrch i'r cyhoedd, ei gofrestreion a rhanddeiliaid eraill amdano'i hun, y rôl(rolau) y mae'n eu cofrestru, ac am y rhaglen cofrestrau achrededig. Mae'n defnyddio ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol i hysbysu a gwella diogelu'r cyhoedd.
- Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Mae'r sefydliad yn dangos ei ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn sicrhau bod ei brosesau'n deg ac yn rhydd rhag gwahaniaethu annheg.
Mae’r gofynion sylfaenol ar gyfer y Safonau wedi’u nodi yn ein Fframwaith Tystiolaeth. Rydym yn defnyddio hwn fel canllaw yn ystod asesiad i sicrhau cysondeb.
Ceir rhagor o wybodaeth am asesu yn erbyn y Safonau yn ein Canllawiau ar gyfer Cofrestrau Achrededig.
Disgwyliwn i Gofrestrau Achrededig gydnabod penderfyniadau Cofrestrau Achrededig a chyrff rheoleiddio eraill .