Ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r broses adnewyddu flynyddol ar gyfer y rhaglen Cofrestrau Achrededig

04 Mai 2017

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau a byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Cefndir

Mae'r rhaglen Cofrestrau Achrededig wedi bod ar waith ers dros bedair blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw gwnaed mân newidiadau i'r rhaglen a'r Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig.

Mae’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ein cyfrifoldebau wedi’i nodi yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012, sy’n rhoi’r awdurdod i ni osod safonau ar gyfer cofrestrau gwirfoddol o weithwyr proffesiynol a gweithwyr iechyd a gofal, ac achredu unrhyw rai sy’n eu bodloni. Mae ein safonau wedi'u nodi yn ein Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig. Rhaid i gofrestrau ddangos eu bod yn bodloni ein holl Safonau i gael eu hachredu.

Ein nod yw cynnal ein hasesiadau yn unol â'n gwerthoedd. Rydym wedi ymrwymo i fod yn:

  • Yn canolbwyntio ar les y cyhoedd
  • Annibynol
  • Teg
  • Tryloyw
  • Cymesur.

Yn fwy diweddar, mae rhai Cofrestrau Achrededig wedi awgrymu y gellid gwneud newidiadau i'r broses adolygu flynyddol i wneud hyn yn fwy cymesur ac yn canolbwyntio ar feysydd risg.

Rydym wedi sylwi bod pob ymgeisydd newydd wedi gorfod gwneud newidiadau i gyflawni neu gynnal ein Safonau yn ystod y ddwy neu dair blynedd gyntaf o achredu. Wedi hynny, mae'r mwyafrif yn cwblhau'r broses adolygu flynyddol yn llwyddiannus a chydag ychydig iawn o amodau.

Rydym yn cydnabod felly bod y rhaglen wedi cyrraedd lefel o aeddfedrwydd lle mae newidiadau yn bosibl, ac y gellir dadlau eu bod yn angenrheidiol, i sicrhau ei bod yn parhau i arwain y ffordd fel model o sicrwydd ar sail risg.

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Gweler yr holl gyhoeddiadau