Prif gynnwys

Tystiolaeth ar gyfer Ymchwiliad y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb i effeithiau gweithdrefnau cosmetig ar iechyd

18 Gorff 2025

Rydym wedi darparu cyflwyniad i'r galwad am dystiolaeth gan y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb fel rhan o'u Hymchwiliad i effeithiau mewnblaniadau bron a gweithdrefnau cosmetig eraill ar iechyd .

Mae ein hymateb yn canolbwyntio ar dynnu sylw at y bwlch rheoleiddiol yr ydym yn credu sy'n bodoli mewn perthynas â gweithdrefnau cosmetig anlawfeddygol ac ailadrodd ein cefnogaeth i ddull sy'n seiliedig ar risg gan gynnwys cyflwyno cynlluniau trwyddedu i liniaru'r risgiau a chynnal cysondeb ledled y DU cyn belled ag y bo modd.

Rydym hefyd yn tynnu sylw at ein barn y gellid rhoi mwy o sylw i gryfhau a chefnogi dulliau sicrwydd presennol, er enghraifft rhaglen Cofrestrau Achrededig y PSA a'r angen am gyfathrebu cyhoeddus effeithiol i sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn gwybod sut i wneud dewisiadau diogel wrth geisio triniaeth.