Ffurf y rhaglen Cofrestrau Achrededig yn y dyfodol - adroddiad ymgynghori
23 Ebrill 2021
Pam wnaethom ni ymgynghori?
Nid oedd y rhaglen wedi'i hadolygu'n llawn ers ei sefydlu yn 2012. Roeddem am ganfod a oedd yn cyflawni ei hamcanion, beth arall y gellir ei wneud a beth oedd barn rhanddeiliaid allweddol. Lansiwyd yr ymgynghoriad gennym ym mis Rhagfyr 2020 a’r dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 18 Chwefror 2021.
Beth mae'r adroddiad yn ei ddatgelu?
Mae'r adroddiad yn cyflwyno dadansoddiad o'r ymatebion a dderbyniwyd gennym yn ogystal ag edrych yn fanylach ar y themâu craidd sydd wedi dod i'r amlwg. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Cydnabod pwysigrwydd sefydlu system o sicrwydd ar gyfer rolau iechyd a gofal heb eu rheoleiddio yn y system ehangach
- Cefnogi’r Awdurdod i roi mwy o ystyriaeth i fudd y cyhoedd a risgiau o niwed wrth benderfynu pa gofrestrau a allai fod yn gymwys i gael eu hachredu tra’n cadw dewis cleifion
- Cyflwyno model ariannu cynaliadwy ar gyfer y rhaglen gyda chylch asesu mwy cymesur.
Darganfod mwy
Gallwch ddarganfod mwy yn yr adroddiad llawn neu ddarllen trwy'r ystadegau allweddol yn y ffeithlun. Gallwch hefyd ddarganfod mwy am yr ymgynghoriad yma .