Prif gynnwys
Canllawiau i reoleiddwyr ar wrandawiadau addasrwydd i ymarfer yn ystod pandemig Covid-19
23 Medi 2020
Mae'r Awdurdod wedi bod yn edrych ar y pryderon ynghylch gwrandawiadau rhithwir ac, yn dilyn ymgynghoriad, wedi cyhoeddi'r canllawiau hyn. Rydym yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad am eu hymatebion meddylgar, a ddarparwyd ar fyr rybudd. Gobeithiwn y bydd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol wrth sefydlu dull cyson ar draws y rheoleiddwyr.