Cyngor Meddygol Seland Newydd: adroddiad adolygu perfformiad (Mai 2010)
12 Hydref 2010
Cefndir
Mae’r adroddiad hwn yn dilyn cais ddiwedd 2009 gan Gyngor Meddygol Seland Newydd (MCNZ) i’r CHRE gynnal adolygiad llawn o berfformiad y sefydliad hwnnw. Cynhaliwyd yr adolygiad perfformiad ym mis Mawrth ac Ebrill 2010.
Rôl y MCNZ
Er bod strwythur rheoleiddio gofal iechyd yn Seland Newydd yn dra gwahanol i'r DU o ran athroniaeth a threfniadaeth, mae rôl a chyfrifoldebau MCNZ yn debyg i rai'r Cyngor Meddygol Cyffredinol a rheoleiddwyr proffesiynol gofal iechyd eraill y DU. Yn gryno, mae ganddo bum prif swyddogaeth, sef:
- Gosod a hyrwyddo safonau y mae'n rhaid i feddygon eu bodloni cyn ac ar ôl iddynt gael eu derbyn ar y gofrestr
- Cadw cofrestr o'r meddygon hynny sy'n bodloni'r safonau. Dim ond ymarferwyr cofrestredig sydd â thystysgrif ymarfer gyfredol sy'n cael gweithio fel meddygon
- Cymryd camau priodol pan fydd addasrwydd neu gymhwysedd meddyg i wneud gwaith meddygol wedi'i amau
- Sicrhau safonau addysg uchel i’r rhai sy’n hyfforddi i fod yn feddyg, gan gynnwys lleoliadau interniaeth ysbyty a chwmpasau ymarfer galwedigaethol newydd
- Cydnabod, achredu a gosod rhaglenni i ddatblygu cymhwysedd meddygon
Crynodeb
Fel rhan o'r adolygiad, fe wnaethom archwilio nifer fach o achosion ymddygiad, iechyd a pherfformiad a ystyriwyd gan Gyngor Meddygol Seland Newydd, adolygu tystiolaeth ddogfennol, arsylwi cyfarfod o'r Cyngor, arsylwi cyfarfod lle trafodwyd achosion ymddygiad, iechyd a pherfformiad ac siarad â rhanddeiliaid allweddol.
Canfuom y gallai gwledydd eraill ddysgu llawer o’r dull adsefydlu a cholegol o reoleiddio sydd wedi’i fabwysiadu yn Seland Newydd. Fodd bynnag, roeddem o'r farn bod angen ychwanegu at y dull hwn drwy fod yn fwy agored ac atebol a thrwy gynyddu cyfranogiad y cyhoedd a chleifion.
Cyhoeddwyd ein hadroddiad ym mis Mehefin 2010 a datblygwyd cynllun gweithredu Cyngor Meddygol Seland Newydd mewn ymateb i'r adroddiad ym mis Hydref 2010.