Adroddiad Monitro - Cyngor Osteopathig Cyffredinol 2021/22
29 Mehefin 2022
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC).
Ystadegau allweddol
- yn rheoleiddio ymarfer osteopathi yn y Deyrnas Unedig
- 5,471 o weithwyr proffesiynol ar y gofrestr
- ffi flynyddol o £320 ar gyfer cofrestru am y flwyddyn gyntaf; £430 am yr ail flwyddyn; a £570 ar gyfer pob blwyddyn ddilynol
Uchafbwyntiau
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2021 a 31 Mawrth 2022.
Canfyddiadau allweddol
- Gwnaeth y GOsC gynnydd ers y llynedd mewn perthynas â chasglu data EDI am ei gofrestryddion. Cynhaliodd arolwg peilot gyda chofrestryddion, gyda chynlluniau i wella’r ffordd y mae’n casglu data EDI adeg cofrestru ac adnewyddu o 2023.
- Lansiodd y GOsC fframwaith EDI ac mae’n rhan o brosiect ymchwil i ystyried profiadau osteopathiaid myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Lansiodd y GOsC Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu 2021-24 y mae’n dweud y bydd yn gwella perthnasoedd â rhanddeiliaid ac yn gwella dealltwriaeth o rôl y GOsC.
- Ymgynghorodd y GOsC ar ei adolygiad o’r Canllawiau ar gyfer Addysg Cyn-gofrestru Osteopathig, yn ogystal â datblygu set newydd o Safonau ar gyfer Addysg a Hyfforddiant.
- Parhaodd y GOsC i werthuso’r cynllun DPP a lansiwyd ganddo yn 2018 a hwylusodd sawl gweminar i gefnogi osteopathiaid i gwblhau eu DPP.
Safonau Cyffredinol
55 allan o 5
Canllawiau a Safonau
22 allan o 2
Addysg a Hyfforddiant
22 allan o 2
Cofrestru
44 allan o 4
Addasrwydd i Ymarfer
55 allan o 5
cyfanswm
1818 allan o 18