Adolygu Perfformiad - Cyngor Deintyddol Cyffredinol 2016/17
01 Tachwedd 2017
Rydym wedi asesu perfformiad y GDC yn erbyn ein Safonau Rheoleiddio Da ac rydym yn falch o weld bod y GDC wedi cynnal y gwelliant yn ei berfformiad a nodwyd gennym y llynedd. Eleni mae’r GDC wedi bodloni 23 allan o 24 o’r Safonau.
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
Ystadegau allweddol:
- Yn cadw cofrestr o weithwyr deintyddol proffesiynol yn y Deyrnas Unedig
- 111,128 o weithwyr deintyddol proffesiynol ar y gofrestr
- Tâl cofrestru blynyddol: £890 (deintyddion); £116 (gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol)
Uchafbwyntiau
Mae'r gwelliant ym mherfformiad y GDC a nodwyd gennym y llynedd wedi parhau ac eleni mae'r GDC wedi bodloni pob un ond un o'n 24 o Safonau Rheoleiddio Da.
Symud y balans
Ym mis Ionawr 2017, cyhoeddodd y GDC Shifting the balance, dogfen drafod sy’n nodi cynigion i newid model rheoleiddio’r GDC ac yn gwahodd rhanddeiliaid i gyfrannu eu barn. Cynigiodd y GDC symud pwyslais ei waith 'i fyny'r afon', i atal niwed rhag digwydd yn hytrach na chymryd camau ar ôl i rywbeth fynd o'i le.
Canllawiau a Safonau
Nid yw’r GDC wedi cyhoeddi unrhyw ganllawiau newydd eleni. Fodd bynnag, mae'n parhau i ddefnyddio ei wefan i amlygu sut y gall cofrestreion gymhwyso ei safonau, gan gynnwys astudiaethau achos a phwyntiau dysgu. Ailgynlluniwyd y wefan a gwellwyd ei nodweddion hygyrchedd i'w gwneud yn haws dod o hyd i wybodaeth. Mae bellach yn cynnwys dolenni cyflym i bynciau poblogaidd yn ogystal â thaflenni sydd ar gael mewn gwahanol ieithoedd.
Cofrestru: mae'r broses yn deg, yn effeithlon ac yn dryloyw
Gwnaethom gynnal adolygiad wedi’i dargedu i wirio sut roedd y GDC yn ymdopi â nifer uwch o apeliadau cofrestru. Nododd y GDC ddau brif achos: ymgeiswyr yn apelio yn erbyn penderfyniadau i wrthod cofrestru oherwydd tystiolaeth anfoddhaol o'u gwybodaeth o'r Saesneg; ac apeliadau gan weithwyr deintyddol proffesiynol a gymhwysodd y tu allan i'r DU. Mae’r GDC wedi adolygu a newid ei broses apeliadau cofrestru. Mae'r amser a gymerir i ddatrys yr apeliadau hyn wedi lleihau - tri mis ar gyfartaledd yn lle pump erbyn hyn. Yn seiliedig ar y wybodaeth a welsom, mae'r Safon hon wedi'i bodloni.
Cofrestru: mae'n ofynnol i gofrestreion aros yn ffit i ymarfer
Mae cynllun datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) newydd y GDC i fod i ddod i rym yn 2018. Rydym yn sylweddoli bod y CDC am leihau unrhyw risgiau wrth ddisodli ei gynllun presennol, ond mae gennym bryderon ynghylch faint o amser y mae’n ei gymryd i gyflwyno’r cynllun newydd – cytunwyd ar y rheolau drafft ar ei gyfer yn wreiddiol yn 2013. Er gwaethaf y diffyg cynnydd hwn, mae’r Safon hon yn parhau i fod wedi’i bodloni gan fod gan y GDC system CPD ar waith sy’n sicrhau bod cofrestryddion yn cynnal eu haddasrwydd i ymarfer.
Addasrwydd i Ymarfer
Gwnaethom gynnal adolygiad wedi’i dargedu o Safonau addasrwydd i ymarfer 3, 5, 6, 8 a 10, er mwyn edrych ar sut yr oedd y GDC wedi mynd i’r afael â rhai o’r materion a godwyd gennym yn ein hadroddiad blaenorol. Roeddem hefyd am weld sut roedd y GDC wedi gweithredu’r broses o gyflwyno archwilwyr achos, ac atgyfeirio rhai cwynion i gynllun pryderon y GIG.
Mae’r GDC wedi rhoi sicrwydd i ni fod ganddo fesurau ar waith i archwilio a gwerthuso’r prosesau newydd hyn. Yn ogystal, rydym wedi gweld bod y canllawiau a’r adnoddau ar gyfer archwilwyr achos yn cael eu cyhoeddi ar wefan y GDC, yn ogystal â phenderfyniadau a wnânt i gytuno ar ymrwymiadau. Mae'r tryloywder hwn yn bwysig. Byddwn yn parhau i edrych ar sut mae’r GDC yn defnyddio ei bwerau newydd mewn adolygiadau yn y dyfodol.
Y llynedd, ni chyflawnodd y GDC y Safon ar gyfer blaenoriaethu cwynion difrifol – roeddem yn bryderus ynghylch faint o amser yr oedd yn ei gymryd i wneud penderfyniadau am orchmynion interim. Eleni rydym wedi gweld bod y GDC yn gwneud penderfyniadau yn gyflymach ac rydym wedi cael sicrwydd ynghylch proses asesu risg y GDC. Rydym hefyd wedi gweld tystiolaeth bod y GDC yn parhau i gynnal y gwelliant o ran prydlondeb datblygiad ei achos.
Ni chyflawnodd y GDC Safon 10 (sy’n ymwneud â diogelwch gwybodaeth) y llynedd, ac eleni mae wedi methu â’i chyrraedd eto. Nid ydym wedi gweld digon o gynnydd eto yng ngwaith y GDC tuag at gydymffurfio â fframwaith llywodraethu gwybodaeth sefydledig.
Bodlonwyd safonau rheoleiddio da:
Canllawiau a Safonau
44 allan o 4
Addysg a Hyfforddiant
44 allan o 4
Cofrestru
66 allan o 6
Addasrwydd i Ymarfer
99 allan o 10