Adolygu Perfformiad - Cyngor Deintyddol Cyffredinol 2017/18
31 Mai 2019
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
Ystadegau allweddol:
- Yn cadw cofrestr o weithwyr deintyddol proffesiynol yn y Deyrnas Unedig
- 111,813 o weithwyr deintyddol proffesiynol ar y gofrestr
- Tâl cofrestru blynyddol: £890 (deintyddion); £116 (gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol)
Uchafbwyntiau
Mae’r GDC yn parhau i berfformio’n dda fel rheolydd. Fodd bynnag, rydym wedi gweld dirywiad yn ei brydlondeb o ran datblygu achosion addasrwydd i ymarfer. Ar gyfer y cyfnod adolygu hwn mae’r GDC wedi bodloni 22 allan o 24 o’n Safonau Rheoleiddio Da.
Addysg a Hyfforddiant: cymerir camau os nodir pryderon am ddarparwyr hyfforddiant
Fe nodom fod y GDC yn cymryd camau pan nodir pryderon am ddarparwr cwrs. Ym mis Chwefror 2018, daeth rhaglen BDOS (Baglor mewn Gwyddor Deintyddol a Llafar) i ben yn dilyn pryderon a nodwyd yn ystod arolygiad sicrhau ansawdd y Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Bu’r GDC yn gweithio gyda’r Brifysgol a darparwyr hyfforddiant eraill yn y DU i gynorthwyo myfyrwyr ar y rhaglen hon i drosglwyddo i gyrsiau eraill i gwblhau eu hyfforddiant i fod yn hylenyddion deintyddol a therapyddion deintyddol.
Cofrestru: mae cofrestreion yn cynnal y safonau gofynnol i aros yn addas i ymarfer
Daeth cynllun Datblygiad Proffesiynol Parhaus Gwell (ECPD) y GDC i rym ar 1 Awst 2018 ar gyfer gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol. Rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan sawl sefydliad trydydd parti ynghylch ymgysylltiad y GDC â rhanddeiliaid wrth ddatblygu a gweithredu’r cynllun ECPD newydd. Disgrifiwyd y canllawiau newydd fel rhai 'cynhwysfawr a defnyddiol' a chroesawyd y pwyslais cynyddol ar ddysgu myfyriol. Mae camau olaf gweithredu’r ECPD wedi rhedeg drwy gydol 2018, gan gynnwys gwaith parhaus i godi ymwybyddiaeth ohono. Byddwn yn parhau i fonitro datblygiad y cynllun newydd mewn adolygiadau perfformiad yn y dyfodol ac rydym wedi ein calonogi gan yr adborth a ddarparwyd hyd yn hyn.
Addasrwydd i Ymarfer: ymdrinnir ag achosion cyn gynted â phosibl
Cyflawnodd y GDC y Safon hon y llynedd gan ein bod wedi gweld gwelliannau mewn prydlondeb. Fodd bynnag, dangosodd y set ddata ar gyfer y cyfnod adolygu perfformiad hwn ddirywiad ym mherfformiad y GDC. Fe wnaethom gynnal adolygiad wedi'i dargedu i ddeall y dirywiad hwn ac i geisio mwy o wybodaeth am gynlluniau'r GDC i wella. Roedd cynnydd sylweddol hefyd yn nifer yr achosion lle bu’n rhaid i’r GDC geisio estyniad i orchymyn interim. Nododd canfyddiadau ein harchwiliad hefyd oedi mewn tua thraean o'r achosion a adolygwyd gennym. Er ein bod yn cydnabod bod y GDC wedi cymryd camau sylweddol i fynd i’r afael â’r materion hyn, nid oedd y rhain wedi arwain at welliannau ar gyfer adolygiad 2017/18. Byddwn yn adrodd ymhellach yn ein hadolygiad perfformiad nesaf, ond rydym yn glir, ar gyfer y flwyddyn adolygu perfformiad hon, nad yw'r Safon hon wedi'i bodloni.
Addasrwydd i Ymarfer: bydd y rheolydd yn penderfynu a oes achos i'w ateb
Newidiodd y GDC ei broses ar gyfer penderfynu a oes achos i gofrestryddion ei ateb mewn perthynas â chwynion yn 2016. Cyflwynodd Archwilwyr Achos, sy'n gweithio mewn parau (un lleyg, un cofrestrai) i ystyried achosion, gan ddisodli'r Pwyllgor Ymchwiliadau. Archwiliwyd nifer o brosesau a ddeilliodd o'r newid hwn. Er bod gennym rai pryderon am yr hyn yr oedd y data yn ei ddangos, ac am rai penderfyniadau unigol a wnaed, nid oedd y pryderon hyn mor arwyddocaol i benderfynu nad yw'r Safon hon yn cael ei bodloni. Cawsom ein sicrhau hefyd bod yr Archwilwyr Achos wedi bod yn cadw at y Llawlyfr Canllawiau Archwilwyr Achosion.
Addasrwydd i Ymarfer: cedwir gwybodaeth yn ddiogel
Gwnaethom gynnal adolygiad wedi’i dargedu i weld pa gynnydd y mae’r GDC wedi’i wneud mewn perthynas â diogelwch gwybodaeth. Nid yw’r GDC wedi bodloni’r Safon hon ar gyfer y pedwar adolygiad perfformiad diwethaf. Er gwaethaf gweithredu argymhellion yr ICO, bu dirywiad ym mherfformiad y GDC. At hynny, er bod y GDC wedi rhoi hyfforddiant diogelu data blynyddol ar waith ar gyfer yr holl staff, bu nifer o achosion difrifol o dorri diogelwch data. Er ein bod yn derbyn nad yw’r ICO wedi cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r toriadau hyn ac yn cydnabod bod y GDC wedi gwneud gwaith sylweddol yn y maes hwn, mae’r toriadau hyn yn dal i fod yn destun pryder. Mae'r Safon hon yn parhau heb ei bodloni.
Bodlonwyd safonau rheoleiddio da:
Canllawiau a Safonau
44 allan o 4
Addysg a Hyfforddiant
44 allan o 4
Cofrestru
66 allan o 6
Addasrwydd i Ymarfer
88 allan o 10