Adolygu Perfformiad - Cyngor Deintyddol Cyffredinol 2018/19
24 Ionawr 2020
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
Ystadegau allweddol:
- Yn cadw cofrestr o weithwyr deintyddol proffesiynol yn y Deyrnas Unedig
- 113,931 o weithwyr deintyddol proffesiynol ar y gofrestr
- Tâl cofrestru blynyddol: £890 (deintyddion); £116 (gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol)
Uchafbwyntiau
Ar gyfer y cyfnod adolygu hwn mae’r GDC wedi bodloni 22 allan o 24 o’n Safonau Rheoleiddio Da. Ni chyflawnodd ein Safonau o ran prydlondeb wrth symud achosion yn eu blaenau ar gamau cychwynnol ei broses addasrwydd i ymarfer na rheoli a diogelu ei ddata addasrwydd i ymarfer yn ystod y cyfnod adolygu perfformiad hwn. Ni chyflawnodd y GDC y naill na’r llall o’r Safonau hyn yn ei adolygiad 2017/18.
Cofrestru: mae'r broses gofrestru, gan gynnwys rheoli apeliadau, yn deg
Roeddem yn pryderu am y cynnydd yn yr amser a gymerir i brosesu ceisiadau gan unigolion a enillodd eu cymwysterau o’r tu allan i’r DU. Roeddem hefyd wedi cael pryderon ynghylch faint o amser yr oedd yn rhaid i ymgeiswyr aros i sefyll yr Arholiad Cofrestru Tramor (ORE). Priodolodd y GDC y cynnydd yn yr amseroedd prosesu i nifer y ceisiadau a dderbyniwyd, ac adleoli ei adran gofrestru i’w bencadlys newydd yn Birmingham, a oedd yn cynnwys mwy o wiriadau sicrwydd ansawdd. Roeddem yn fodlon bod yr amserlenni'n parhau i fod yn briodol ac nad oeddent yn dynodi perygl o ôl-groniad. Mewn perthynas â'r ORE, mae'n ymddangos bod yr oedi o ganlyniad i gyfyngiadau deddfwriaethol ynghylch faint y gellir ei godi ar ymgeiswyr, sydd y tu allan i reolaeth y GDC. Rydym o’r farn bod angen newid deddfwriaethol i ddileu’r cyfyngiadau hyn er mwyn caniatáu mwy o sgôp i’r GDC o ran sut y caiff yr ORE ei ddarparu a’i ariannu. Daethom i'r casgliad bod y Safon hon wedi'i bodloni.
Addasrwydd i Ymarfer: gall unrhyw un godi pryder am addasrwydd i ymarfer cofrestrai
Ym mis Medi 2017, cyflwynodd y GDC offeryn brysbennu ar-lein sy’n darparu gwybodaeth am y mathau o bryderon y gall y GDC ymchwilio iddynt ac yn cyfeirio defnyddwyr at ffurflen gwyno ar-lein os yw’r offeryn yn nodi y gall y GDC ymchwilio i’r materion a godwyd. Roeddem am fod yn fodlon nad oedd yr offeryn yn cyfeirio pobl â phryderon dilys i ffwrdd oddi wrth y GDC yn amhriodol. Roeddem o'r farn bod gan yr offeryn agweddau cadarnhaol gan ei fod yn cyfeirio at sefydliadau eraill a allai fod yn fwy addas i ymdrin â phryderon y tu allan i gylch gwaith y GDC. Fe wnaethom nodi hefyd fod yna ffyrdd eraill y gellir codi pryderon gyda’r GDC ac roeddem yn fodlon, yn gyffredinol, nad oedd nifer y cwynion difrifol a ystyriwyd gan y GDC wedi’u lleihau o ganlyniad i’r offeryn. Daethom i'r casgliad bod y Safon hon wedi'i bodloni.
Addasrwydd i Ymarfer: ymdrinnir ag achosion cyn gynted â phosibl
Eleni, bu cynnydd pellach yn yr amser a gymerwyd i symud achosion yn eu blaenau ar gamau cychwynnol y broses addasrwydd i ymarfer. Er bod y GDC wedi gwella ei berfformiad mewn meysydd eraill o’r mesurau rydym yn adrodd arnynt ac wedi cau mwy o achosion eleni nag y gwnaeth yn 2017/18, cymysg fu ei berfformiad o ran amseroldeb. Yn gyffredinol, mae’r GDC wedi cymryd mwy o amser i gwblhau camau cynnar ei ymchwiliadau, mae’r gostyngiad yn nifer yr achosion oedrannus wedi bod yn fach ac mae’r gyfran o’r rhain fel rhan o’i lwyth achosion yn uchel. Mae ei amserlen gyffredinol yn parhau i fod ar frig y rheolyddion a oruchwyliwn. Rydym felly wedi dod i'r casgliad nad yw'r Safon hon wedi'i bodloni.
Addasrwydd i Ymarfer: cedwir gwybodaeth am achosion addasrwydd i ymarfer yn ddiogel
Nid yw’r GDC wedi bodloni’r Safon hon ers 2012. Roedd tri achos difrifol o dorri data yn ystod y cyfnod dan sylw, ac roedd un ohonynt yn ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth iechyd meddwl sensitif a oedd wedi’i chynnwys mewn penderfyniad addasrwydd i ymarfer a gyhoeddwyd, ac a oedd ar gael ar-lein o hyd ar gyfer nifer o wythnosau. Mae’r GDC wedi dweud wrthym fod hyn oherwydd camgymeriad dynol ac yn dilyn y digwyddiad hwn, ychwanegwyd gwiriadau ychwanegol at ei brosesau. Nid yw'r ICO wedi cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â'r toriadau hyn. Yn ogystal, y tu allan i’r cyfnod hwn mae’r GDC wedi cwblhau ei hunanasesiad yn erbyn pecyn cymorth y GIG. Er ei bod yn amlwg bod y GDC yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r pryderon, nid oeddem yn fodlon bod y rhain yn ddigonol i gyrraedd y Safon yn y cyfnod hwn.
Bodlonwyd safonau rheoleiddio da:
Canllawiau a Safonau
44 allan o 4
Addysg a Hyfforddiant
44 allan o 4
Cofrestru
66 allan o 6
Addasrwydd i Ymarfer
88 allan o 10