Adolygu Perfformiad - Cyngor Meddygol Cyffredinol 2019/20

19 Mawrth 2021

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Ystadegau allweddol:

  • Yn rheoleiddio ymarfer meddygon yn y Deyrnas Unedig
  • 336,747 o weithwyr proffesiynol ar y gofrestr ar 30 Medi 2020
  • £406 o ffi cofrestru blynyddol

Uchafbwyntiau

Yn ein hadolygiad blynyddol o berfformiad, ceisiasom ragor o wybodaeth gan y GMC am rai meysydd o'i waith. Daethom i'r casgliad bod y GMC wedi dangos ei fod yn parhau i fodloni ein holl Safonau Rheoleiddio Da.

Canllawiau a Safonau: yn darparu canllawiau i helpu cofrestreion i gymhwyso’r safonau a sicrhau bod y canllawiau hyn yn gyfredol

Yn ystod y cyfnod adolygu hwn, parhaodd y GMC â'i waith i adolygu ei ganllawiau ar wneud penderfyniadau a chaniatâd. Ystyriodd yr argymhellion o Ymchwiliad Paterson ac Adolygiad Cumberlege. Cyhoeddodd y canllawiau newydd ym mis Medi 2020. Gwelsom hefyd fod y GMC wedi darparu arweiniad pellach i feddygon ar ôl y newid i gyfraith erthyliad yng Ngogledd Iwerddon.

Addysg a Hyfforddiant: yn sicrhau bod darparwyr addysgol yn darparu myfyrwyr a hyfforddeion sy'n bodloni ei ofynion mewn ffordd dryloyw a chymesur

Yn dilyn peilot, mae'r GMC yn barod i gyflwyno ei broses newydd ar gyfer sicrhau ansawdd hyfforddiant meddygol. Mae'r broses newydd yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar risg a bydd gofyn i sefydliadau lofnodi datganiad a chwblhau hunanasesiad ar gyfer y GMC. Nid oes gennym unrhyw bryderon am y dull mewn egwyddor, a byddwn yn monitro sut y mae’n gweithio’n ymarferol.

Cofrestru: yn cynnal ac yn cyhoeddi cofrestr gywir o'r rhai sy'n bodloni ei ofynion, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar eu hymarfer

Mewn ymateb i bandemig Covid-19, sefydlodd y GMC gofrestr dros dro o gofrestreion blaenorol (er enghraifft, y rhai a oedd wedi ymddeol yn flaenorol). Gofynasom i'r GMC am ei ddull gweithredu pan godwyd pryderon am feddygon ar y gofrestr honno. Dywedodd wrthym ei fod wedi derbyn 19 o atgyfeiriadau addasrwydd i wneud gwaith meddygol am feddygon ar y gofrestr dros dro a’i fod wedi dirymu’r cofrestriad dros dro/trwydded i ymarfer yn un o’r achosion hynny. Dywedodd y GMC nad oedd yr un o'r atgyfeiriadau yn ymwneud â materion clinigol a ddigwyddodd yn ystod y pandemig. Dywedodd nad oedd wedi nodi unrhyw achosion o feddygon yn cael cofrestriad dros dro yn amhriodol.

Addasrwydd i Ymarfer: mae’r broses ar gyfer archwilio ac ymchwilio i achosion yn deg, yn gymesur ac yn gyson

Gofynasom i'r GMC am rywfaint o wybodaeth am ei broses yn ymwneud â thystion sy'n darparu tystiolaeth arbenigol yn ystod achosion addasrwydd i ymarfer, yn dilyn pryderon a gawsom. Roedd y rhain yn cynnwys pryderon am gynnwys adroddiadau ac addasrwydd arbenigwyr ar gyfer achos penodol. Dywedodd y GMC wrthym am ei broses i sicrhau ansawdd y dystiolaeth a gaiff gan arbenigwyr ac roeddem yn fodlon y dylai'r gwiriadau hynny fynd i'r afael â'r pryderon a gawsom.

Addasrwydd i Ymarfer: cefnogir pob parti i gŵyn i gymryd rhan yn effeithiol yn y broses

Ym mis Tachwedd 2019 cyhoeddodd y GMC siarter cleifion newydd, gyda'r bwriad o 'wella llwybrau cleifion i'r GMC'. Mae'n cynnwys chwe addewid y bydd y GMC yn eu defnyddio i werthuso ei berfformiad. Yr addewidion yw trin cleifion ag urddas a pharch, eu helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o fynegi eu pryder, eu diweddaru, cyfathrebu mewn ffordd sy’n gweithio iddynt, trin eu gwybodaeth yn ofalus a dysgu o’u profiad. .

Bodlonwyd safonau rheoleiddio da:

Safonau Cyffredinol

5

5 allan o 5

Canllawiau a Safonau

2

2 allan o 2

Addysg a Hyfforddiant

2

2 allan o 2

Cofrestru

4

4 allan o 4

Addasrwydd i Ymarfer

5

5 allan o 5

Cyfanswm

18

18 allan o 18

Lawrlwythiadau