Adolygu perfformiad - Cyngor Osteopathig Cyffredinol 2016/17
16 Mehefin 2017
Yn ein hadolygiad blynyddol o’u perfformiad ar gyfer 2016/17 daethom i’r casgliad bod y GOsC yn perfformio’n dda ac wedi bodloni’r holl Safonau Rheoleiddio Da.
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Osteopathig Cyffredinol.
Ystadegau allweddol:
- Yn rheoleiddio'r arfer o osteopathi yn y Deyrnas Unedig
- 5,210 o gofrestreion ar 31 Rhagfyr 2016
- Ffi gofrestru o £320 am y flwyddyn gyntaf, £430 am yr ail flwyddyn ac wedi hynny £570 y flwyddyn
Uchafbwyntiau
Mae safonau yn blaenoriaethu diogelwch cleifion a defnyddwyr gwasanaeth
Cynhyrchodd y GOsC ganllawiau drafft diwygiedig i fyfyrwyr a sefydliadau addysgol ar ymddygiad proffesiynol ac addasrwydd i ymarfer. Gan ymgorffori canlyniadau o Adroddiad Francis a’r ddyletswydd gonestrwydd, mae’r canllawiau’n helpu myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad ac ystyried yr effaith a gaiff ar ddiogelwch cleifion a’r ymddiriedaeth y mae’r cyhoedd yn ei rhoi yn y proffesiwn osteopathig. Mae'r canllawiau yn rhoi enghreifftiau penodol am y mathau o weithgareddau a allai godi amheuaeth ynghylch addasrwydd ymarferydd i ymarfer.
Mae canllawiau ychwanegol yn helpu cofrestryddion i gymhwyso safonau'r rheolydd
Mae'r GOsC wedi parhau i gynghori cofrestreion am yr angen am hysbysebu cywir. Mae ganddo adran gwefan sy'n ymroddedig i ddarparu gwybodaeth ar gydymffurfio â rheolau hysbysebu ac mae hefyd yn atgoffa cofrestreion yn ei gylchlythyrau. Ym mis Tachwedd 2016, helpodd y GOsC i roi cyhoeddusrwydd i ganllawiau’r Awdurdod Safonau Hysbysebu ar gyfer osteopathiaid ynghylch hawliadau marchnata ar gyfer menywod beichiog, plant a babanod, gan gynghori osteopathiaid ynghylch pa fathau o hawliadau sy’n briodol.
Cynhelir y safonau sy'n ofynnol er mwyn parhau i fod yn addas i ymarfer trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus
Mae’r GOsC wedi bod yn datblygu cynllun Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) newydd, sy’n ei gwneud yn ofynnol i osteopathiaid ymgymryd â 30 awr o DPP y flwyddyn, gan gynnwys 15 awr o ddysgu gydag eraill. Bydd cylch cynllun cyflawn yn cymryd tair blynedd, gan wneud cyfanswm o 90 awr o DPP. Roedd canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus yn gadarnhaol a bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno yn ystod 2017/18. Mae Grŵp Partneriaeth DPP wedi cael ei greu gan y GOsC. Mae'n cynnwys cleifion, osteopathiaid a grwpiau osteopathig, i oruchwylio gweithrediad y cynllun.
Mae’r broses addasrwydd i ymarfer yn dryloyw, yn deg, yn gymesur ac yn canolbwyntio ar ddiogelu’r cyhoedd
Wedi'i anelu at wella ansawdd a chysondeb pwyllgorau'r GOsC (Ymddygiad Proffesiynol ac Iechyd), cymeradwyodd y GOsC Ganllawiau ar Ddrafftio Penderfyniadau ym mis Chwefror 2016 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Wedi'i bwriadu i fod yn 'ddogfen fyw', bydd yn cael ei diwygio i ystyried datblygiadau yn y gyfraith achosion, yn ogystal â phwyntiau adborth/dysgu a ddarperir gan yr Awdurdod i'r GOsC.
Mae penderfyniadau addasrwydd i ymarfer wedi'u rhesymu'n dda, yn gyson, yn amddiffyn y cyhoedd ac yn cynnal hyder
Ym mis Gorffennaf 2016, cymeradwyodd y GOsC y Weithdrefn Cau Cychwynnol . Mae’n rhoi arweiniad ar benderfyniadau a wneir ar gamau cychwynnol y broses addasrwydd i ymarfer a’i nod yw gwneud y broses ymchwilio yn fwy tryloyw. Nid yw effaith y newid hwn wedi'i gwerthuso eto gan y GOsC ond rydym yn croesawu'r datblygiad hwn.
Mae pob parti sy’n ymwneud â’r broses addasrwydd i ymarfer yn cael eu cefnogi a gallant gymryd rhan yn effeithiol
Y llynedd edrychodd y GOsC ar sut i gefnogi tystion trwy'r broses addasrwydd i ymarfer trwy ddarparu arweiniad. Yn ystod y cyfnod adolygu perfformiad hwn, trodd y GOsC ei sylw at gofrestreion a sut i'w cefnogi. Nododd nad oedd unrhyw ganllawiau ar weithdrefnau addasrwydd i ymarfer y GOsC a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer osteopathiaid. Mae hyn wedi arwain at ddau lyfryn drafft ar wahân: bydd y cyntaf yn esbonio gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer y GOsC yn gyffredinol ac yn nodi beth sydd angen i osteopath ei wneud os gwneir cwyn amdanynt; a bydd yr ail lyfryn yn cynnwys canllawiau manwl ar baratoi ar gyfer gwrandawiad a mynychu gwrandawiad. Bydd adborth yn cael ei ystyried cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn 2017.
Bodlonwyd safonau Rheoleiddio Da:
Canllawiau a Safonau
44 allan o 4
Addysg a Hyfforddiant
44 allan o 4
Cofrestru
66 allan o 6
Addasrwydd i Ymarfer
1010 allan o 10