Adolygu Perfformiad - Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2020/21
23 Tachwedd 2021
Ystadegau allweddol
- Yn rheoleiddio ymarfer nyrsys a bydwragedd yn y DU a chymdeithion nyrsio yn Lloegr
- 744,929 o weithwyr proffesiynol ar y gofrestr (ar 30 Medi 2021)
- Tâl cofrestru blynyddol: £120 i bob unigolyn cofrestredig
Uchafbwyntiau
Ar gyfer y cyfnod adolygu hwn mae'r NMC wedi bodloni 17 o'r 18 Safon Rheoleiddio Da. Ni chyflawnodd yr NMC y Safon sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo ymdrin ag achosion addasrwydd i ymarfer mor gyflym ag sy’n gyson â datrysiad teg i’r achos.
Safonau Cyffredinol: mae’r rheolydd yn sicrhau nad yw ei brosesau yn gosod rhwystrau amhriodol nac yn rhoi pobl â nodweddion gwarchodedig o dan anfantais mewn unrhyw ffordd arall
Credwn fod gan yr NMC un o’r dulliau cryfaf o ymdrin â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y rheolyddion a oruchwyliwn. Eleni parhaodd yr NMC â’i waith i ddeall a mynd i’r afael â gwahaniaethau yn effaith ei bolisïau ar unigolion â nodweddion gwarchodedig.
Addysg a Hyfforddiant: cynnal safonau cyfredol sy’n cael eu hadolygu’n barhaus, a blaenoriaethu gofal a diogelwch sy’n canolbwyntio ar y claf a’r defnyddiwr gwasanaeth
Cyflwynodd yr NMC safonau brys ar gyfer addysg nyrsio a bydwreigiaeth a oedd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd yn ystod y pandemig. Roedd yn eu diweddaru drwy gydol y flwyddyn i adlewyrchu datblygiadau yn effaith y pandemig ar wasanaethau gofal iechyd. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym eu bod yn croesawu lefel ymgysylltu a chydweithio’r NMC â’r sector wrth gynllunio a gweithredu’r newidiadau hyn.
Cofrestru: mae proses y rheolydd ar gyfer cofrestru, gan gynnwys apeliadau, yn gweithredu’n gymesur, yn deg ac yn effeithlon, gyda phenderfyniadau wedi’u hesbonio’n glir
Gwnaeth yr NMC newidiadau cyflym i’w brosesau cofrestru mewn ymateb i’r pandemig i gefnogi ei gofrestryddion a’r gweithlu ehangach. Lansiodd yr NMC ei gofrestr dros dro ym mis Mawrth 2020. Cyhoeddodd bolisïau clir yn nodi dull seiliedig ar risg o wahodd grwpiau i ymuno â’r gofrestr a’i broses ar gyfer tynnu enw oddi ar y gofrestr. Cawsom adborth cadarnhaol gan randdeiliaid am ymagwedd yr NMC at y gwaith hwn.
Addasrwydd i Ymarfer: mae proses y rheolydd ar gyfer archwilio ac ymchwilio i achosion yn deg, yn gymesur, yn delio ag achosion mor gyflym ag sy’n gyson â datrysiad teg i’r achos
Mae’r amser a gymerir i wneud penderfyniadau am achosion addasrwydd i ymarfer wedi cynyddu eto eleni, wrth i effeithiau’r pandemig amharu ar allu’r NMC i ddelio ag achosion. Mae llai o benderfyniadau wedi'u gwneud, ac mae oedran a maint cyffredinol llwyth achosion addasrwydd i ymarfer yr NMC wedi cynyddu.
Mae’r NMC yn gweithredu rhaglen waith eang i fynd i’r afael â’r dirywiad hwn mewn perfformiad, tra’n sicrhau y gall gefnogi’r bobl sy’n ymwneud â’r broses. Fodd bynnag, nid yw’n rhagweld y bydd effaith llawer o’i fesurau arfaethedig i’w gweld am beth amser.
Rydym yn croesawu’r ffocws clir a’r awydd i wella y mae’r NMC wedi’u dangos, ond yn absenoldeb tystiolaeth o welliannau sylweddol i berfformiad yn y cyfnod cynnar hwn, ni chyflawnwyd y Safon hon eleni.
Safonau Rheoleiddio Da NMC 2020/21 wedi'u bodloni
Safonau Cyffredinol
55 allan o 5
Canllawiau a Safonau
22 allan o 2
Addysg a Hyfforddiant
22 allan o 2
Cofrestru
44 allan 4
Addasrwydd i Ymarfer
44 allan o 5
Cyfanswm
1717 allan o 18