Adolygu Perfformiad - Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon 2017/18
12 Ebrill 2019
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon.
Ystadegau allweddol:
- Yn rheoleiddio ymarfer fferyllwyr a hefyd yn cofrestru safleoedd fferyllol yng Ngogledd Iwerddon
- 2,563 o weithwyr proffesiynol ar y gofrestr (ar 30/09/2018)
- £398 o ffi flynyddol am gofrestru
Uchafbwyntiau
Mae'r PSNI wedi bodloni'r holl Safonau Rheoleiddio Da am y drydedd flwyddyn yn olynol. Rydym wedi adrodd yn flaenorol ar faterion yn deillio o ddiwygiadau a wnaed i ddeddfwriaeth y PSNI. Mae’r PSNI wedi ein sicrhau ei fod yn parhau i weithio i fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae hyn yn cynnwys drafftio deddfwriaeth newydd, ond mae’r sefyllfa wleidyddol bresennol yng Ngogledd Iwerddon ac absenoldeb gweinidog iechyd yn effeithio ar ei hynt.
Canllawiau a Safonau: mae canllawiau ychwanegol yn helpu cofrestryddion i gymhwyso safonau'r rheolydd
Yn ystod y cyfnod adolygu hwn, dechreuodd y PSNI adolygiad helaeth o'i safonau a'i ddogfennau canllaw presennol. Mae'r adolygiad eisoes wedi arwain at ddod â rhai dogfennau i ben a nodi bylchau lle gallai fod angen dogfennau newydd, a byddwn yn ymgynghori ar rai ohonynt. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo, ond rydym yn fodlon bod y Safon hon yn parhau i gael ei bodloni.
Cofrestru: mae cofrestreion yn cynnal y safonau gofynnol i aros yn addas i ymarfer
Buom yn edrych yn agosach ar y Safon hon i ddeall yn well sut mae system bresennol y PSNI ar gyfer DPP yn gweithio. Nododd y PSNI broblem yn ymwneud â fferyllwyr a oedd wedi tynnu eu hunain oddi ar y gofrestr yn wirfoddol a’u gofynion DPP – nid yw ei ddeddfwriaeth yn ei alluogi i orfodi’r gofynion ar gyfer y grŵp hwn. Yn y tymor hwy, mae'r PSNI yn bwriadu newid ei ddeddfwriaeth. Yn y cyfamser, mae angen iddo reoli risgiau sy'n gysylltiedig â'r grŵp hwn o gofrestreion. Mae wedi llunio dull o fynd i'r afael â'u DPP. Roeddem am edrych ar y risg bosibl y gallai’r cofrestreion hyn ei pheri. Mae'r ystadegau'n dangos bod y nifer gwirioneddol ohonynt yn eithaf isel - yn berthnasol i tua 41 o gofrestreion y flwyddyn allan o tua 2,300. Rydym yn fodlon felly bod y PSNI wedi ymateb yn gymesur i lefel y risg ac mae'r Safon hon yn parhau i gael ei bodloni.
Addasrwydd i Ymarfer: mae'r broses yn dryloyw, yn deg, yn gymesur ac yn canolbwyntio ar ddiogelu'r cyhoedd
Mae'r PSNI yn parhau i gynyddu amlygrwydd ei broses addasrwydd i ymarfer. Eleni mae gwaith wedi parhau i ddiweddaru ei Ganllawiau Sancsiynau Dangosol (ISG) ar gyfer gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer. Cwblhaodd ei adolygiad o'r canllawiau cyfredol a drafftio fersiwn wedi'i diweddaru. Fel rhan o gam cyn-ymgynghori ei adolygiad, gofynnodd y PSNI i'r Awdurdod roi sylwadau ar bapur trafod yr oedd wedi'i baratoi. Ymgorfforwyd ein hymateb yn y drafft diwygiedig ac mae'r canllawiau bellach yn canolbwyntio mwy ar ddiogelu'r cyhoedd. Ymgynghorodd y PSNI ar y drafft, gan gyhoeddi'r fersiwn derfynol ym mis Ionawr 2019. Daw'r canllawiau newydd i rym o 27 Mawrth 2019. Rydym yn fodlon bod y Safon hon yn parhau i gael ei bodloni.
Addasrwydd i Ymarfer: ymdrinnir ag achosion cyn gynted â phosibl
Cwblhawyd adolygiad wedi'i dargedu o berfformiad y PSNI yn erbyn y Safon hon. Roeddem am ddeall pam y bu cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion hŷn o fewn llwyth achosion y PSNI; a sut roedd y PSNI yn rheoli'r achosion hyn. Dywedodd y PSNI wrthym fod camgymeriad wedi bod yn y ffigurau a adroddwyd i ni. Rhoddodd y ffigurau wedi’u cywiro i ni a dywedodd wrthym hefyd fod y math hwn o achos fel arfer yn ymwneud ag ymchwiliadau trydydd parti neu faterion iechyd cymhleth. Dywedodd y PSNI wrthym hefyd sut mae’n monitro ac yn rheoli achosion sy’n ymwneud ag ymchwiliadau trydydd parti, gan gadarnhau ei fod yn cynnal asesiadau risg rheolaidd yn ystod ei ymchwiliadau ac yn gwneud cais am orchmynion interim lle bo angen. Felly rydym yn fodlon bod y Safon hon yn parhau i gael ei bodloni.
Bodlonwyd safonau rheoleiddio da:
Canllawiau a Safonau
44 allan o 4
Addysg a Hyfforddiant
44 allan o 4
Cofrestru
66 allan o 6
Addasrwydd i Ymarfer
1010 allan o 10