Adolygiad Cyfnodol – Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol 2022/23

Rydym yn gwirio pa mor dda y mae’r 10 rheolydd iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yr ydym yn eu goruchwylio yn diogelu’r cyhoedd. Un o'r ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw drwy adolygu'r rheolyddion a gwirio sut maent yn bodloni ein Safonau Rheoleiddio Da. Rydym yn cyfeirio at hyn fel 'adolygiad perfformiad'. Yna byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau mewn adroddiad adolygu perfformiad. Yma rydym yn adrodd ar sut y llwyddodd y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol (GCC) i fodloni ein Safonau yn ystod 2022/23. Dyma un o'n hadolygiadau cyfnodol hwy, manylach. 

Ffeithiau a ffigurau allweddol:

  • Yn rheoleiddio ceiropractyddion yn y DU
  • 3,640 o weithwyr proffesiynol ar ei gofrestr (ar 30 Mehefin 2023)

Canfyddiadau allweddol ar gyfer y GCC ar gyfer 2022/23

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Mae’r GCC yn parhau i ddangos ei ymrwymiad i EDI ac mae wedi gwneud cynnydd da wrth roi ei gynllun gweithredu ar waith. Creodd Weithgor EDI a chyhoeddodd bolisi EDI newydd, gyda Phecyn Cymorth EDI atodol ar gyfer cofrestreion. Cynhaliodd hefyd, ac adroddodd ar, adolygiad thematig o achosion a gaewyd gan ei Bwyllgor Ymchwilio. Ni chanfu’r adolygiad unrhyw bryderon am brosesau’r GCC ond nododd rai meysydd i’w datblygu ymhellach, megis gwella amrywiaeth pwyllgorau addasrwydd i ymarfer. Defnyddiodd y GCC ei ymgyrch recriwtio ym mis Chwefror 2023 fel cyfle i arallgyfeirio ei gronfa o aelodau IC ymhellach.

Cymuned Cleifion

Yn gynnar yn 2022, sefydlodd y GCC ei Gymuned Cleifion - grŵp cynghori sy'n cynnwys 20 o gleifion ceiropracteg, i gael dealltwriaeth ddyfnach o'r profiad ceiropracteg o safbwynt claf. Eleni, cyhoeddodd y GCC ddau adroddiad ar ymchwil a gynhaliwyd gyda'r grŵp: Proffesiynoldeb, Safbwynt y Cleifion; a Chydsyniad, Safbwynt y Claf . Roedd y gwaith hwn yn llywio datblygiad canllawiau a phecynnau cymorth y GCC ar gyfer y proffesiwn.

Safonau Addysg Newydd

Cyflwynodd y GCC Safonau Addysg newydd eleni. Cafodd datblygiad y Safonau ei lywio gan ymgynghoriad cyhoeddus, grwpiau ffocws gyda rhanddeiliaid allweddol a chyhoeddiadau a chanllawiau gan sefydliadau perthnasol eraill. Mae'r Safonau newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar ofal sy'n canolbwyntio ar y claf, EDI a gwaith cydweithredol ac integredig gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Mae’r GCC yn cefnogi darparwyr addysg presennol i roi’r newidiadau ar waith ac mae ganddo gynlluniau pontio ac amserlenni ar waith ar gyfer pob darparwr. Mae’r GCC yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn derbyn myfyrwyr i gymwysterau sy’n bodloni’r Safonau newydd o flwyddyn academaidd 2024/25.

Amseroldeb addasrwydd i ymarfer

Ni chyflawnodd y GCC Safon 15 y llynedd oherwydd ei bod yn cymryd gormod o amser i symud ymlaen ag ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer. Eleni, bu gwelliant sylweddol yn yr amser a gymerir o dderbyn atgyfeiriad i benderfyniad addasrwydd i ymarfer terfynol, felly rydym yn fodlon bod Safon 15 wedi'i bodloni. Fodd bynnag, mae'r amser a gymerir o atgyfeirio i benderfyniad IC wedi cynyddu am yr ail flwyddyn yn olynol. Rhaid i’r GCC sicrhau ei fod yn symud achosion ymlaen yn brydlon ac nad yw’n caniatáu i ôl-groniad o achosion hŷn gronni.

Penderfyniadau addasrwydd i ymarfer

Cynhaliwyd archwiliad o'r penderfyniadau a wnaed yn IC eleni. Canfuom fod gan y GCC reolaethau rhesymol a chymesur ar waith i sicrhau gwneud penderfyniadau da a bod y rheolaethau hynny’n gweithio’n effeithiol ar y cyfan. Roedd bron pob un o’r penderfyniadau IC a adolygwyd gennym yn rhesymol, gyda rhesymau clir, cywir a manwl wedi’u cofnodi. Dim ond nifer fach o faterion a welsom mewn perthynas â phenderfyniadau a chawsom ein cysuro o weld tystiolaeth bod y GCC yn nodi ac yn gweithredu dysgu pan oedd materion yn codi.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Efallai yr hoffech chi hefyd

Dolenni eraill o ddiddordeb
Ein gwaith gyda rheoleiddwyr