Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Awdurdod Safonau Proffesiynol 2020/21
30 Mehefin 2021
Nid oes amheuaeth bod hon wedi bod yn flwyddyn anodd a heriol ac mae ein hamodau gwaith yn parhau i gael eu pennu gan y pandemig.
Er gwaethaf hyn rydym nid yn unig wedi gallu parhau â busnes fel arfer, ond mae 2020/21 wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol iawn. Mae uchafbwyntiau allweddol y flwyddyn yn cynnwys:
- Blwyddyn lawn o weithio gyda'n Safonau Rheoleiddio Da newydd
- Ymgynghoriad ar sut rydym yn ymdrin â'n hadolygiadau perfformiad
- Adolygiad strategol o’r rhaglen Cofrestrau Achrededig, gan gynnwys cynnal ymgynghoriad – gan gasglu bron i 100 o ymatebion
- Cynhyrchu canllawiau ar gyfer gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer rhithwir
- Gwirio 2,018 o benderfyniadau addasrwydd i ymarfer terfynol a mynd ymlaen i apelio yn erbyn 11 ohonynt
- Cynnal ein hadolygiad dysgu Covid-19 (cyhoeddwyd ym mis Ebrill 2021)
- Cyhoeddi dau adroddiad ymchwil a chomisiynu tri adroddiad pellach (cyhoeddwyd yn gynnar yn 2021/22)
- Paratoi ein hymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth ar ddiwygio rheoleiddio a gyhoeddwyd tua diwedd 2020/21.