Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Awdurdod Safonau Proffesiynol 2021/22

30 Mehefin 2022

Beth mae'r Awdurdod wedi bod yn gweithio arno yn ystod y flwyddyn?

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol – mae’n manylu ar ein gweithredoedd a’n gweithgareddau yn ystod 2021/22 ar gyfer ein tri phrif faes gwaith:

  1. Goruchwylio'r 10 rheolydd proffesiynol iechyd/gofal - gan gynnwys gwirio penderfyniadau addasrwydd i ymarfer terfynol a chymryd camau lle credwn nad yw penderfyniadau'n ddigonol i ddiogelu'r cyhoedd ac adolygu perfformiad rheolyddion a sut maent yn bodloni ein Safonau Rheoleiddio Da.
  2. Achredu cofrestrau o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol a gedwir gan gyrff anstatudol.
  3. Helpu i wella rheoleiddio drwy roi cyngor i lywodraeth y DU ac eraill, cynnal/comisiynu ymchwil a hyrwyddo egwyddorion rheoleiddio cyffyrddiad cywir.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn (yn Gymraeg neu Saesneg), ciplun o'r flwyddyn yn ein huchafbwyntiau byrrach am y flwyddyn neu ffeithlun o'r flwyddyn mewn niferoedd.

 

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Gweler yr holl gyhoeddiadau