Prif gynnwys

Cynllun Busnes yr Awdurdod Safonau Proffesiynol 2025/26

10 Gorff 2025

Mae ein cynllun busnes yn crynhoi sut rydym yn bwriadu cyflawni ein Nodau Strategol yn ystod 2025/26

 

Ein Gweledigaeth : Gofal mwy diogel i bawb drwy safonau uchel o ymddygiad a chymhwysedd mewn gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol. 

Ein Cenhadaeth : Diogelu cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd drwy wella rheoleiddio a chofrestru gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol proffesiynol.

Nod Strategol 1: Diogelu'r cyhoedd drwy ddarparu goruchwyliaeth hynod effeithiol o reoleiddio a chofrestru. 

  • Cyflawni ein dyletswyddau statudol, gan dargedu ein hadnoddau lle mae’r risg fwyaf i’r cyhoedd.
  • Cefnogi safonau uchel mewn rheoleiddio a chofrestru iechyd a gofal cymdeithasol trwy ein hadolygiad perfformiad, adolygiadau adran 29, cofrestrau achrededig, a swyddogaethau polisi a chyfathrebu.
  • Adolygu a gwella ein prosesau (gan gynnwys newidiadau deddfwriaethol lle bo angen) i sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn effeithlon. 

 

Nod Strategol 2: Gwneud rheoleiddio a chofrestru'n well ac yn decach 

  • Arwain datblygiad rheoleiddio mwy effeithiol trwy adolygu ein safonau, a chynnal gweithgareddau eraill gan gynnwys ymchwil, cyngor polisi a mentrau gwella ansawdd, megis rhannu arfer da.
  • Hyrwyddo, dylanwadu a chefnogi diwygio rheoleiddio.
  • Hyrwyddo a monitro cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith ac yn y rhai rydym yn eu goruchwylio. 

 

Nod Strategol 3: Hyrwyddo a chefnogi gofal mwy diogel i bawb 

  • Gweithio gydag eraill i sefydlu'r ystod lawn o swyddogaethau a argymhellir mewn Gofal Mwy Diogel i bawb ar gyfer Comisiynwyr Diogelwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mhob un o bedair gwlad y DU.
  • Gweithio gyda llywodraethau'r DU i ddatblygu strategaethau rheoleiddio i gefnogi strategaethau'r gweithlu.
  • Gweithio gyda rheoleiddwyr, Cofrestrau Achrededig a rhanddeiliaid eraill i: hyrwyddo diwylliannau cadarnhaol yn y gweithle; datrys unrhyw wrthdaro rhwng blaenoriaethau busnes a diogelwch cleifion, a rhwng mannau diogel, atebolrwydd a’r ddyletswydd gonestrwydd.