Rydym wedi nodi bwlch mewn diogelu yn flaenorol gan fod Cofrestrau Achrededig wedi profi heriau o ran cael mynediad at wiriadau cofnodion troseddol ar gyfer eu cofrestreion. Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn i edrych ar gyflwyno gofynion i ofyn am wiriadau cofnodion troseddol ac rydym am ddeall yn well sut y byddai cyflwyno'r newidiadau hyn yn effeithio ar y Cofrestrau Achrededig, ymarferwyr, aelodau'r cyhoedd a phobl â chofnodion troseddol.