Prif gynnwys
Ymgynghoriad cyhoeddus yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar ei ddogfennau canllaw arfer da
22 Ionawr 2024
Pam mae’r PSA yn datblygu’r ddau ddarn hyn o ganllawiau ar gyfer rheolyddion?
Mae’r Llywodraeth yn bwriadu newid y ddeddfwriaeth ar gyfer naw o’r 10 rheolydd gofal iechyd proffesiynol yr ydym yn eu goruchwylio, gan roi ystod o bwerau newydd iddynt a chaniatáu iddynt weithredu mewn ffordd wahanol iawn.
Bydd y pwerau newydd yn rhoi mwy o ryddid i reoleiddwyr benderfynu sut y maent yn gweithredu, gan gynnwys yr hyblygrwydd i osod a diwygio eu rheolau eu hunain. Bydd hefyd yn creu proses hollol newydd ar gyfer ymdrin â phryderon addasrwydd i ymarfer (y broses a ddefnyddir i ymdrin â phryderon am weithwyr gofal iechyd proffesiynol) gan ganiatáu ffordd gyflymach a llai gwrthwynebus o ymdrin â phryderon am weithwyr proffesiynol, y tu allan i wrandawiad cyhoeddus.